Dystonia Ffocal y Cerddorion.

Anhwylder echddygol niwrolegol yw Dystonia Ffocal y Cerddorion (ITM) lle mae’r cyhyrau sy’n cael eu defnyddio i ganu offeryn yn cyfangu’n anrheoledig. Mae'n gyflwr sy’n gysylltiedig â thasgau penodol, ac i ddechrau dim ond ar y rheolaeth reoledig o sgiliau echddygol cerddorol sydd wedi’u hymarfer drosodd a throsodd y mae’n amharu. Cerddorion yw'r grŵp proffesiynol sydd â'r risg fwyaf o ddatblygu dystonia ffocal, ac mae'n effeithio ar ryw 1% ohonyn nhw. Amcangyfrifir bod y gymhareb gwrywod i fenywod rhwng 2:1 a 6:1, ac mae pianyddion, gitaryddion, chwaraewyr chwythbrennau ac offerynwyr llinynnol ymhlith y garfan risg uchaf. Gall chwaraewyr offerynnau pres a chwythbrennau hefyd ddatblygu MDF yn eu dwylo a rhannau o'r corff sy'n ymwneud â'r genau (ceg, gwefusau, bochau, genau neu'r tafod). Gall offerynwyr taro ddatblygu dystonia'r traed. Fel arfer mae offerynwyr yn cael diagnosis rhwng eu hugeiniau a'u deugeiniau, ac yn aml mae'n effeithio ar offerynwyr sydd wedi ymarfer yn arbennig o ddwys dros y blynyddoedd. Mae MFD yn peryglu gyrfa rhywun, ac mae llawer o gerddorion enwog gan gynnwys y pianydd Glenn Gould wedi cael eu taro'n ddrwg.

Dim ond wrth chwarae y ceir symptomau, ac maen nhw'n aml yn ymddangos mewn darnau cyflym, fel afreoleidd-dra wrth chwarae triliau neu grychnodau, neu bydd un neu fwy o’r bysedd yn plygu’n anrheoledig. Pan fydd MFD yn effeithio ar y genau, mae cerddorion yn gallu cael anhawster taro'r nodyn cywir neu ganu nodyn yn gywir, neu gallant brofi cryndod wrth ddal nodau. Credir bod cynnydd sydyn mewn chwarae, newid dramatig mewn techneg, dychwelyd i chwarae ar ôl saib hir, trawma, anaf nerfol a newid offeryn oll yn gallu sbarduno'r cyflwr. Yn aml, mae pianyddion yn gweld bod 4ydd a 5ed bys y llaw dde wedi'u heffeithio, a gall gitaryddion weld bod 3ydd bys y llaw dde yn cyrlio yn anrheoledig. Mae'n effeithio'n aml ar law chwith ffliwtwyr hefyd, ac mae feiolinwyr a chlarinetwyr yn gallu cael problemau gyda'r naill law neu'r llall.

Credir y gall y symudiadau llaw ailadroddus a ddefnyddir wrth chwarae offeryn arwain at ailfapio'r meysydd derbyn yn y cortecs cerebrol. Mae hyn yn golygu bod mapiau'r ymennydd yn mynd yn llai diffiniedig, gyda sganiau'n dangos bod yr ardaloedd sy’n cynrychioli’r bysedd yn y cortecs cerebrol yn cael eu hasio'n annormal, sy’n achosi i gyfarwyddiadau o'r ymennydd fynd i'r cyhyrau anghywir ac yn creu symptomau'r dystonia. Fel arfer, mae'r dioddefwr yn gweld bod y rhan sydd wedi'i heffeithio yn ymateb yn iawn ar adegau eraill, a dim ond yn ystod y gweithgaredd sbarduno y bydd allan o reolaeth.

Mae angen atgyfeirio unigolion sydd wedi'u heffeithio at niwrolegydd mewn da bryd. Yn anffodus, does dim triniaeth i wella’r cyflwr hwn a allai ddiweddu gyrfa ac sy’n gallu achosi cryn ofid i gerddorion, er bod pigiadau botwlinwm, cyffuriau gwrthgolinergig, ail-addysgu’r synhwyrau ac ail-diwnio echddygol synhwyraidd yn gallu helpu.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau