Problemau anadlu
- a) Covid 19.
Adeg ysgrifennu'r modiwl hwn (Mehefin 2020), mae’r pandemig Covid yn parhau ac yn cael effaith drychinebus ar bob elfen o'r diwydiant cerddoriaeth ac ar gerddorion eu hunain - gydag un o bob pump yn dweud ei bod yn annhebygol y byddant yn gallu parhau i wneud bywoliaeth oherwydd y pandemig. Mae lleoliadau perfformio a neuaddau cyngherddau wedi cau, ac mae pryderon ynghylch canu a hyd yn oed chwarae offerynnau pres a chwyth yn gyhoeddus. Mae cadw pellter cymdeithasol o 1-2 fetr mewn cerddorfa fawr o gant a mwy o berfformwyr yn gwbl amhosib fwy neu lai, ac mae maint cynulleidfaoedd yn debygol o gael ei gwtogi'n ddifrifol, unwaith eto, oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol. O'r herwydd, bydd llawer o gerddorfeydd, lleoliadau a chyngherddau yn anhyfyw. Mae llawer o gerddorion yn hunangyflogedig ac yn wynebu caledi mawr ar hyn o bryd.
- b) Niwmothoracs.
Mae chwaraewyr pres a chwythbren mewn mwy o berygl o ddioddef niwmothoracs oherwydd yr holl waith anadlu allan sydd ei angen i chwarae eu hofferynnau.
- c) Niwmonitis (clefyd y bagbibydd neu sacsoffonydd).
Dyma niwmonitis gorsensitifrwydd a achosir gan lwydni a ffwng mewn offerynnau pres a chwythbrennau sydd heb gael eu glanhau'n iawn ar ôl cael eu chwarae. Fe'i gwelwyd mewn bagbibyddion, sacsoffonyddion, trwmpedwyr, trombonyddion a chlarinetwyr, a’r symptomau yw peswch a diffyg anadl. Daeth y cyflwr i'r amlwg wedi i fagbibydd farw yn 2016 ar ôl datblygu creithiau nad oedd modd eu gwella ar ei ysgyfaint.