Problemau nerfol.

Mae anafiadau cywasgu nerfau yn gyffredin ymysg cerddorion lefel uchel, a hefyd yn taro'r rhai sy'n chwarae'n llai aml ar lefel is ond sydd â thechneg wael. Mae cerddorion llinynnol mewn perygl gan eu bod yn dal eu hofferynnau ar ystum annormal am gyfnodau hir, ac mae offerynwyr taro yn cael eu heffeithio’n aml.

  1. i) Syndrom twnnel y carpws.

Mae hwn yn gyffredin ymysg offerynwyr llinynnol ac mae'n cael ei achosi gan symudiadau ailadroddus y bysedd a'r arddwrn, ac ystum chwarae'r offeryn. Mae angen gorffwys, a gall ffisiotherapi a sblintiau helpu. Gall astudiaethau dargludiad nerfol ddangos bod angen atgyfeirio at arbenigwr breichiau.

    1. ii) Syndrom twnnel y gyfelin.

    Mae hwn yn gyffredin ymysg offerynwyr llinynnol a gitaryddion sy'n aml yn datblygu problemau ar ba bynnag ochr maen nhw'n dal cribell yr offeryn. Mae nerf y penelin yn cael ei chywasgu gan gyhyrau llidiog sy'n creu'r pant elinol yn y penelin, ac mae plygu'r penelin yn sbarduno symptomau neu'n eu gwaethygu.

    Mae'r poen neu'r teimlad annormal yn symud o'r penelin, ar hyd ochr fewnol yr elin ac i'r 5ed bys ac ochr elinol y 4ydd bys. Bydd pobl yn aml yn teimlo pinnau bach a fferdod, ac mae cyhyrau'r elin yn gallu brifo a theimlo'n dyner. Mae cerddorion yn sylwi na allant reoli'r 4ydd a'r 5ed bys cystal â'r arfer, ac yn colli deheurwydd, cyflymder a rheolaeth o'r bysedd hyn.

    Gall gwaith cyfrifiadurol, pwyso ar benelin, problemau gwddf, osgo gwael a gwyro'r pen ymlaen gyfrannu at y cyflwr hefyd.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau