Problemau penodol sy'n gysylltiedig â gwahanol grwpiau o gerddorion.

Mae'r broses o greu gwahanol fathau o gerddoriaeth yn tueddu i fod yn gysylltiedig â phroblemau iechyd penodol, a chyflwynir crynodeb byr isod. Mae llawer o broblemau fel cyflyrau cyhyrysgerbydol ac ofn llwyfan yn gyffredin i berfformwyr o bob math.

 

  1. Pianyddion ac allweddellwyr.

Mae pianyddion yn gweld bod osgo disymud ac ailadrodd symudiadau echddygol manwl yn gallu arwain at broblemau cyhyrysgerbydol (yn enwedig ymysg pianyddion elît). Mae'r problemau hyn yn effeithio ar ran uchaf y corff yn bennaf, sef y cefn a’r breichiau. Dangosodd astudiaeth (Greic, 1989) fod gan 50% o bianyddion anhwylderau'r cefn tra bod 22% wedi datblygu anhwylderau ar yr elinau a'r arddyrnau 2.

Mae problemau cyffredin yn cynnwys anaf straen ailadroddus, poen cefn a gwddf, tendonitis, bwrsitis, syndrom twnnel y carpws, dystonia ffocal, poen ysgwydd ac arthritis neu anafiadau i'r dwylo. Mae'r cymalau arddyrnol yn bwysig iawn wrth ganu'r piano, ac mae osteoarthritis yn gallu effeithio arnynt, yn enwedig ymysg menywod.

Mae'n gallu bod yn anodd i bianyddion â dwylo bach chwarae rhai darnau o waith lle mae angen ymestyn y dwylo, ac mae allweddellau llai ar gael i'r unigolion hyn. Mae'n rhaid sicrhau bod stôl y piano wedi'i gosod ar yr uchder cywir, ac mae ystum a thechneg wrth ganu'r piano yn bwysig iawn er mwyn osgoi anafiadau. Ni ddylai'r pianydd barhau i chwarae os yw mewn poen.

Gall chwaraewyr acordion ddioddef anafiadau wrth gario a dal offeryn mor drwm.

Mae gwefan BAPAM (British Association of Performing Arts Medicine) yn cynnwys ffeithlen ddefnyddiol o dan y teitl 'The Healthy Pianist' 3.

2. Cantorion.

Mae cantorion mewn perygl o ddatblygu anhwylderau ar dannau'r llais, ac mae nodylau ar y tannau yn broblem gyffredin. Mae polypau, briwiau a thyfiannau sy'n deillio o firysau yn gallu achosi problemau, ynghyd â heintiau a chyflyrau sy'n arwain at barlys tannau'r llais. Gall cantorion ddioddef o adlif gastrig hefyd.

Mae angen diagnosis cynnar ar gyfer anhwylderau tannau'r llais er mwyn eu trin yn llwyddiannus.

Mae cymorth ar gael gan The British Voice Association, ac mae ffeithlen ddefnyddiol ar gael ar wefan BAPAM (www.bapam.org.uk). Mae'n trafod problemau iechyd y llais ymysg artistiaid perfformio, ac mae'n cynnwys adran ar argymhellion BAPAM ar gyfer meddygon teulu yn ymwneud at atgyfeiriadau i glinigau llais 4. Hefyd, mae gwefan BAPAM yn cynnwys ffeithlen ar gyfer cantorion o'r enw 'Fit to sing' 5.

 3. Cerddorion llinynnol.

Mae llawer o gerddorion llinynnol yn dueddol o ddioddef anafiadau, ac unwaith eto mae anaf straen ailadroddus yn broblem gyffredin. Gall feiolinyddion a fiolyddion fod mewn perygl gan nad yw osgo eu cyrff yn gymesur wrth berfformio. Hefyd, gallant ddatblygu problemau gyda syndrom allfa thorasig, sy'n gyflwr poenus iawn sy’n gallu bygwth gyrfa, tra bod chwaraewyr y sielo yn tueddu i ddioddef problemau cefn ac ysgwydd yn aml. Erbyn hyn, mae cadeiriau â choesau y gellir addasu eu huchder ar gael i'w helpu i wella ystum ac i osgoi rhai anafiadau. Mae llawer o gerddorion llinynnol yn dioddef anafiadau oherwydd ystum, anafiadau gorddefnyddio neu gywasgu nerfau.

Mae problemau eraill yn cynnwys dystonia ffocal, problemau nerf y penelin, syndrom twnnel y carpws, tendonitis, bursitis, tenosynovitis, tenosynovitis de Quervains, syndrom twnnel yr elin, bys neu fawd glicied, poen cefn, gwddf ac ysgwydd, camweithrediad y cymal sy’n cysylltu’r ên a’r penglog a dermatitis alergaidd. Hefyd, mae feiolinyddion a fiolyddion yn tueddu i ddatblygu 'hickey' feiolin — dermatitis ar y gwddf sy'n gallu bod yn boenus a mynd yn heintus. Hefyd, mae peryglon posibl eraill yn cynnwys llinynnau'n torri ac anafiadau gan fwa cerddor arall wrth berfformio neu ymarfer mewn lle cyfyng.

Mae'r sielo, y bas dwbl a'r delyn yn offerynnau mawr a thrwm, ac mae cerddorion yn gallu cael anafiadau wrth eu cludo.

4. Cerddorion chwythbrennau.

Mae cerddorion chwythbren mewn perygl o ddioddef nifer o gyflyrau. Mae'r cyflyrau hyn yn cynnwys gorddefnyddio a phroblemau cyhyrysgerbydol yn y llaw, yr arddwrn a'r elinau, poen gwddf a chefn, niwropathïau caethiwo fel twnnel y carpws, a chyflyrau llidiol fel tenosynovitis de Quervains 6. Hefyd, gall cerddorion chwythbrennau ddioddef o heintiau sy'n cael eu hachosi drwy rannu offerynnau sydd heb gael eu glanhau'n drylwyr, problemau deintyddol, pwysedd mewnllygadol uwch, codau ffaryngol, hernia, problemau clyw, anafiadau i gyhyrau'r gwefusau, cheilitis cyswllt ac adlif gastro-esoffogaidd.

Mae ffliwtwyr yn dioddef llawer o anafiadau oherwydd yr ystum sy'n gysylltiedig â chwarae'r offeryn. Maent yn wynebu mwy o risg o ddioddef syndrom yr allfa thorasig a chyflyrau llidiol fel tenosynovitis de Quervains. Gall clarinetwyr ddioddef problemau gyda chyhyrau rhwng bawd a mynegfys y llaw dde a'r gewynnau ar waelod y bawd ac ochr radiol yr arddwrn. Gall pobl sy'n chwarae'r sacsoffon a bagbibyddion ddatblygu niwmonitis gorsensitifrwydd prin a elwir yn 'clefyd y sacsoffon.’

Mae baswnau yn drwm iawn, ac mae cerddorion sy'n eu chwarae yn gallu dioddef problemau gwddf a gwaelod y cefn. Gellir helpu hyn drwy ddefnyddio harnais y frest i gymryd pwysau'r offeryn, ac mae chwaraewyr baswn ifanc yn defnyddio sbigynnau at y diben hwn yn aml.

 

 5. Cerddorion offerynnau pres.

Mae'r grŵp hwn o offerynwyr mewn perygl o ddioddef problemau gyda'r wefus, problemau cyhyrysgerbydol, cheilitis cyswllt, tinitws a phroblemau clyw, codau ffaryngol, hernia, pwysedd mewnllygadol uwch a niwmothoracs.

Mae trympedwyr yn wynebu’r perygl mwyaf o gwymp y genau. Trympedwyr sy'n dioddef syndrom Satchmo (sy'n rhwygo'r cyhyr orbicularis oris) gan amlaf, ond mae'n gallu effeithio ar gerddorion sy'n chwarae'r corn Ffrengig a'r trombôn hefyd. Gall hyn arwain at anallu i gynnal nodau uchel. Hefyd, mae cerddorion sy'n chwarae'r trombôn, y trymped a'r tiwba mewn perygl o ddatblygu problemau TMJ 7. Mae trympedwyr mewn mwy o berygl o ddatblygu ymlediad anarferol ar y laryncs a hyd yn oed CVAs mewn achosion prin. Gall trympedwyr a chwaraewyr tiwba ddatblygu niwmonitis gorsensitifrwydd (clefyd sacsoffon neu'r bagbibydd), yn enwedig os nad yw eu hofferynnau wedi'u glanhau'n drylwyr.

6. Gitaryddion.

Mae gitaryddion yn tueddu i ddioddef anafiadau cyhyrysgerbydol fel tendonitis, poen gwddf a chefn a llid ar y penelin. Mae problemau cyffredin eraill yn cynnwys colli clyw, tinitws, syndrom twnnel y carpws (yn enwedig os yw'r offeryn yn cael ei ddal yn rhy isel), anafiadau i nerf y penelin, dystonia ffocal, syndrom allfa thorasig, dermatitis llinyn gitâr, torri asgwrn uchaf y bys, ac anafiadau i'r wyneb neu'r llygaid yn sgil llinynnau'n torri.

Mae gan y BAPAM ffeithlen ddefnyddiol iawn ar 'The acoustic guitar' ar gyfer cerddorion sy'n awgrymu sut gall gitaryddion osgoi anafiadau 8.

7. Offerynwyr taro.

Yr anhwylderau mwyaf cyffredin ymysg offerynwyr taro yw tendonitis, anaf straen ailadroddus a syndrom twnnel y carpws. Gallant ddioddef problemau gyda'r breichiau a phroblemau gwaelod cefn yn aml. Mae drymwyr mewn perygl o golli clyw, ac mae problemau prinnach yn cynnwys y risg (isel iawn) o ddal anthracs o ddrymiau.

 

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau