Problemau'r glust, y trwyn a’r gwddf

 

  1. a) Colli clyw a tinitws.

Mae achosion o golli clyw a tinitws oherwydd sŵn yn llawer uwch ymysg cerddorion oherwydd eu proffesiwn, gyda'r achos o golli clyw yn dueddol o ddigwydd ar amleddau uwch 3000-6000 Hz. Mewn astudiaeth ddiweddar (Distadio et al, 2018)22, canfuwyd bod 38.6% o gerddorion proffesiynol yn gyffredinol wedi colli clyw, a chyfraddau o 63.5% mewn cerddorion roc a phop, a 32.8% mewn cerddorion clasurol. Roedd y golled yn gymesur mewn 68% o gerddorion roc a phop, ac mewn 44.5% o gerddorion clasurol. Credir bod y gyfradd is o golli clyw cymesur mewn cerddorion clasurol yn deillio o'r ffaith fod y cerddorion hynny'n chwarae eu hofferynnau mewn modd anghymesur. Roedd cyfraddau tinitws tua’r fath ymhlith cerddorion clasurol a cherddorion roc a phop.

Mae gan blygiau clustiau ac ymwybyddiaeth gynyddol o'r risg i glyw cerddorion rôl bwysig i'w chwarae, a thros y blynyddoedd diwethaf, mae cerddorfeydd wedi dod yn fwy ymwybodol o’r lefelau sŵn y mae eu haelodau’n dod i gysylltiad â nhw. Erbyn hyn, mae dyletswydd ar reolwyr cerddorfeydd i ddarparu amgylchedd gwaith diogel i'w hofferynwyr cyflogedig a llawrydd. Er enghraifft, mae lefelau sŵn wrth ddesgiau cefn yr ail feiolinyddion a’r fiolyddion mewn cerddorfeydd mawr sy’n eistedd o flaen yr adrannau pres, chwythbrennau a tharo yn gallu bod yn andros o uchel.

Mae gan BAPAM ffeithlen ddefnyddiol ar golli clyw ar eu gwefan, ‘Don’t lose the Music!’ 23. Mae ffynonellau cymorth eraill yn cynnwys RNID, a elwid gynt yn ‘Action on Hearing Loss’ (www.actiononhearingloss.org.uk/your-hearing/look-after-your-hearing), British Tinitws Association (www.tinitws.org.uk), a'r Musicians Hearing Services, gwasanaeth awdioleg preifat â dealltwriaeth dda o anghenion penodol cerddorion (www.musicianshearingservices.co.uk).

Mae Help Musicians UK yn cynnal cynllun iechyd clyw i gerddorion sy'n cynnig cyfle i holl gerddorion proffesiynol y DU gael gwasanaeth asesu a diogelu clyw arbenigol (www.helpmusicians.org.uk)

 

  1. b) Hyperacusis/diplocusis

Canfuwyd eto bod hyperacusis, sef sensitifrwydd cynyddol i rai synau, yn fwy cyffredin mewn cerddorion. Dangosodd astudiaeth o 100 o gleifion â hyperacusis ym 1999 fod 25% ohonynt mewn proffesiwn cysylltiedig â cherddoriaeth, a bod 31% yn teimlo bod cysylltiad â cherddoriaeth uchel (naill ai'n broffesiynol neu mewn cyngherddau roc a phop swnllyd) wedi achosi eu problem. Ymddengys mai amlygiad cronnol i sŵn uchel yw'r prif ffactor risg, a bod drymwyr mewn perygl penodol.

Mae diplocusis, h.y. pan mae clust chwith a chlust dde'r gwrandäwr yn 'clywed' yr un dôn cerddorol mewn cywair gwahanol, yn fwy cyffredin ymhlith y rhai sydd â cholled clyw, yn enwedig colled anghymesur. Gall fod yn broblem enfawr i gerddorion proffesiynol, yn enwedig y rhai sy'n chwarae offerynnau lle mae'n rhaid iddynt roi’r traw i bob nodyn maen nhw'n ei chwarae.

 

  1. c) Nodylau lleisiol ac anhwylderau eraill tannau llais.

Gall anhwylderau tannau llais fod yn arbennig o drafferthus i gantorion, ac maen nhw'n cynnwys anafiadau, nodylau, polypau, briwiau, heintiau a thyfiannau a achosir gan firysau. Mae problemau eraill yn cynnwys mae parlys tannau llais, ac adlif gastrig.

Mae cantorion ag anhwylderau llais yn fwyaf tebygol o gael anghydbwysedd tyndra'r cyhyrau (MTI) na phatholeg organig neu annormaledd strwythurol, ac mae clinigau ENT yn aml yn colli'r diagnosis hwn. Asesir MTI mewn cantorion drwy gyfrwng nasendoscopi mewn nifer fach glinigau llais arbenigol.

Mae'r symptomau'n cynnwys llais cryg, colli'r gallu i daro nodau uchel wrth ganu, llais dyfnach, dolur gwddf, a mwy o ymdrech i siarad.  Yn aml, mae anhwylderau tannau llais yn cael eu hachosi gan gam-drin neu gamddefnyddio'r llais. Mae defnyddio gormod o'r llais, ysmygu ac anadlu sylweddau llidus yn gallu achosi hyn.

Mae angen diagnosis cynnar ar gyfer triniaeth lwyddiannus.  Gall hyn gynnwys rhoi’r gorau i’r ymddygiad sy'n achosi'r broblem yn y lle cyntaf, gorffwys y llais, meddyginiaeth, atgyfeirio at SALT, neu hyd yn oed lawdriniaeth i gael gwared ar unrhyw dyfiant.

Ymhlith y ffyrdd pwysig o ddiogelu'r llais mae hydradu, digon o gynhesu lleisiol, ystum a thechneg dda, gorffwys os bydd haint yn y system anadlu uchaf, ac osgoi alcohol, mwg sigaréts a chaffein. Mae ystum ac osgo da yn rhan ucha'r corff yn hollbwysig hefyd.

Fel gydag unrhyw glaf â llais cryg sy'n para mwy na phythefnos, dylid atgyfeirio achosion newydd gyda llai na phythefnos o amser aros, a gall clinigau llais arbenigol fod o gymorth hefyd.

Gall y British Voice Association fod o gymorth hefyd. Mae BAPAM hefyd wedi cynhyrchu cwpl o daflenni ffeithiau defnyddiol: 'Argymhellion BAPAM i feddygon teulu ynghylch atgyfeirio clinigau llais' 4  a 'Phroblemau Iechyd Lleisiol wrth i artistiaid berfformio'  ac mae ganddynt Weithgor Iechyd Lleisiol i gynghori ar arfer gorau ym maes iechyd lleisiol.

 

  1. d) Codau ffaryngol.

Canfuwyd bod gan offerynwyr gwynt a phres, yn enwedig trwmpedwyr a chlarinetwyr, fwy o achosion o godau ffaryngol (pharyngeal pouches). Yn wir, dangosodd astudiaeth 26 o sampl o 21 o offerynwyr chwythbren a phres fod gan bob un ohonynt rywfaint o  ddiferticwla laryngoffaryngol ochrol (lateral laryngopharyngeal diverticulae), ac roedd yr awduron o'r farn bod rhaid ystyried hwn yn 'anaf gorddefnyddio' yn yr offerynwyr hyn.

 

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau