RSI (anaf straen ailadroddus.)

Mae RSI yn broblem gyffredin iawn ac yn risg bosibl i bob math o gerddorion, ac eithrio cantorion efallai. Mae'n anaf gorddefnyddio cysylltiedig â gwaith sydd fel arfer (er ddim bob amser) yn effeithio ar ran ucha'r corff, ac mae cerddorion mewn mwy o berygl o hyn gan fod ymarfer, yn enwedig ar lefel uchel, yn golygu ailadrodd mân symudiadau am gryn amser. Ymhlith y symptomau mae poen a thynerwch, plyciau o boen, gwendid, pinnau bach, cramp a stiffrwydd, ac er y gallant fod yn ysgafn i ddechrau, gallant fynd yn ddifrifol iawn os nad yw’r cerddor yn trin y broblem yn brydlon ac os yw'n ceisio dal ati i berfformio drwy'r boen. Yn aml, mae perfformwyr yn amharod i gyfaddef bod ganddyn nhw anaf oherwydd natur gystadleuol y byd cerddorol, ac felly efallai y byddan nhw wedi bod yn dioddef ers tipyn cyn gweld meddyg, a gall RSI fygwth gyrfa cerddor os nad yw’n cymryd y broblem o ddifrif ac yn ei thrin mewn da bryd. Gall techneg dda a chymryd gofal i gynhesu ac oeri'n iawn wrth chwarae helpu i atal y broblem, ac mae ymlacio cymaint â phosibl wrth chwarae hefyd o gymorth. Gall gorddefnyddio cyfrifiaduron a ffonau symudol wneud cerddorion yn fwy tueddol o ddioddef RSI hefyd.

Yr arddwrn, blaen y fraich, y penelin, y cefn a'r gwddf yw'r rhannau mwyaf cyffredin a effeithir.

Mae rhai offerynwyr mewn perygl arbennig o gael y cyflwr hwn. Gall feiolinwyr a fiolyddion ddatblygu RSI yn eu braich bwa, ac mae ymlacio'r fraich a chadw'r arddwrn yn ystwyth yn helpu. Gall pianyddion ddatblygu problemau oherwydd osgo gwael. Mae rhai darnau hynod dechnegol gyda symudiadau ailadroddus arbennig o anodd yn gallu achosi problemau, a gall chwaraewyr ifanc hyfedr fynd i drafferthion wrth orlethu eu hunain â darnau meistrolgar nad yw eu cyrff yn barod ar eu cyfer eto neu wrth ymarfer gormod. Mae drymwyr yn tueddu i gael problemau gyda'r cefn a'r arddyrnau, a gall dull Moeller (dull strôc taro a ddefnyddir mewn drymio y credir ei fod yn gofyn am lawer llai o ymdrech ac i gario llai o risg o anaf na dulliau eraill) fod o gymorth i ddatblygu dull mwy hamddenol o chwarae. Gall gitarwyr ddatblygu RSI yn y bysedd, a gall gitarau sy'n hongian yn isel achosi problemau hefyd.

Pan fydd symptomau’n datblygu mae'n hanfodol bod y perfformiwr yn rhoi'r gorau i chwarae ac yn cael cyngor iechyd. Mae gorffwys yn hollbwysig ac mae opsiynau triniaeth yn cynnwys cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID), pecynnau poeth ac oer, ategion, ffisiotherapi, osteopathi, ac aciwbigo. Efallai y bydd angen newid techneg chwarae a gosodiadau’r offeryn hefyd. Mae'n ddefnyddiol iawn i gerddorion ddod â'u hofferynnau i apwyntiadau gyda'u therapydd er mwyn dangos sut maen nhw'n chwarae'r offeryn - gall hyn helpu i ddatrys y broblem.

Ymhlith y mesurau y gall cerddorion eu cymryd i geisio atal datblygu RSI mae techneg chwarae dda, osgoi repertoire rhy uchelgeisiol a gorymarfer, gwella osgo, ymlacio wrth chwarae, gwneud ymarferion cynhesu cyn ymarfer a pherfformio ac ymarferion oeri ar ôl, a chymryd seibiant rheolaidd. Mae ymarfer corff yn bwysig a gall ioga a Tai Chi fod yn arbennig o fuddiol, ac mae llawer o gerddorion yn defnyddio techneg Alexander  (proses addysgol a gafodd ei chreu i ailhyfforddi patrymau symud ac ystum arferol) gyda chanlyniadau da iawn.

 

 

 

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau