Syndrom Allfa Thorasig

Mae'r cyflwr hwn yn aml yn cael diagnosis anghywir neu ddiagnosis hwyr, ac rydym yn gweld mwy a mwy o achosion ymysg cerddorion sy'n treulio oriau lawer mewn ystum ac osgo sy'n golygu eu bod mewn perygl o gael y cyflwr, yn enwedig pan fydd hynny’n cynnwys symudiadau ailadroddus. Mae feiolinyddion, fiolyddion, ffliwtwyr a drymwyr mewn perygl, a cherddorion eraill sy'n treulio cyfnodau hir gyda'u breichiau wedi’u codi yn gwneud symudiadau ailadroddus hefyd. Mae mwy o achosion ymhlith menywod ac mae oedran cyfartalog datblygu’r cyfartalog rhwng 20 a 50 mlwydd oed, er bod cerddorion ifanc hynod ddawnus yn eu harddegau sy'n ymarfer gormod hefyd mewn mwy o berygl o'i ddatblygu. Mae myfyrwyr ysgolion cerddoriaeth a conservatoires yn aml yn datblygu’r cyflwr. Gall syndrom allfa thorasig arwain at ôl-effeithiau enbyd a difrifol, a gall beryglu gyrfa'r cerddor, er bod modd ei drin.

Fe'i diffinnir fel cywasgu un neu fwy o'r strwythurau niwrofasgwlaidd sy'n croesi'r allfa thorasig, a all effeithio ar strwythurau niwrolegol neu fasgwlaidd yn dibynnu ar ba elfen o'r bwndel niwrofasgwlaidd (y plecsws breichiol a'r rhydweli a'r wythïen isglafiglaidd) sydd wedi'i chywasgu. Gall symptomau fod yn niwrolegol (mwyaf cyffredin), fasgwlaidd, rhydwelïol (prin ond pwysig iawn oherwydd gallai arwain at ischaemia'r fraich), neu'n gymysg.

Ymhlith y ffactorau sy’n gwneud y cyflwr yn fwy tebygol mae annormaleddau cynhenid sy'n effeithio ar yr allfa thorasig (mae 10% o gleifion ag asennau serfigol yn datblygu'r cyflwr), ystum/osgo gwael, straen ailadroddus, cyfnodau hir o godi breichiau, anafiadau gorestyn, torri pont yr ysgwydd, straen corfforol neu emosiynol estynedig, a gorymarfer.

I ddechrau, caiff symptomau eu priodoli i gyflyrau eraill, a gallant gynnwys poen yn y gwddf, yr ysgwydd a/neu ran ucha'r fraich, poen yn y frest, problemau gyda mân symudiadau bysedd a dwylo (gall offerynwyr llinynnol sôn am golli ansawdd vibrato neu gydsymudiad manwl), poen yn yr elin, diffyg teimlad yn y bysedd, clefyd Raynaud, chwydd yn y fraich, neu hyd yn oed ischaemia'r fraich yn sgil clot yn y rhydweli isglafigaidd. Os na chaiff ei drin yn effeithiol, gall syndrom allfa thorasig ddinistrio gyrfaoedd ac arwain at syndromau poen cronig.

Gall ymchwiliadau gynnwys archwiliad pelydr X o'r meingefn serfigol (er mwyn eithrio asennau serfigol), CXR, astudiaethau o ddargludiad nerfol, angiograffeg CT, a sgan MRI o'r gwddf, pont yr ysgwydd a'r ysgwydd.

Mae angen atgyfeirio a thrin yn brydlon - yn achos symptomau niwrogenig, er mwyn eu lleddfu, ac yn achos cywasgu gwythiennol neu rydwelïol ar gyfer thrombolysis a/neu ddatgywasgu llawfeddygol yr allfa thorasig, sydd fel arfer yn golygu tynnu'r asen gyntaf neu asen serfigol o'r ochr dan sylw. Fel arfer, mae syndrom allfa thorasig niwrogenig yn gwella gyda mesurau ceidwadol, a all gynnwys gorffwys, newid techneg chwarae a dal offerynnau, gwella ystum ac osgo, cymryd mwy o seibiannau wrth ymarfer, ffisiotherapi ac ati. Efallai y bydd angen rheolaeth lawfeddygol os na fydd mesurau ceidwadol yn llwyddiannus. Fel y nodwyd uchod, gall hyn gynnwys tynnu'r asen gyntaf neu’r asen serfigol, ond gellir defnyddio niwrolysis plecsws breichiol a llawdriniaeth i dynnu’r sgaleni (scalenectomy) hefyd.

Canfu astudiaeth ddiweddar o 5 cerddor proffesiynol (3 feiolinydd a 2 fiolydd) a ddatblygodd syndrom allfa thorasig fod pob un o'r 5 wedi llwyddo i ailgychwyn eu gyrfa berfformio yn dilyn llawdriniaeth lwyddiannus ar gyfer y cyflwr.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau