Adnabod Ffactorau Risg canser y croen
Rydym yn gwybod o ddata am Gymru fod pobl o ardaloedd llai difreintiedig yn fwy tebygol o gael melanoma. Fodd bynnag, nid oes data penodol i bennu nifer yr achosion o NMSC o’u cymharu â graddfeydd amddifadedd.
Mae pobl sydd â’r nodweddion canlynol yn ddeg gwaith yn fwy tebygol o gael melanoma: >100 o fannau geni, gwallt coch, mannau geni annodweddiadol, >2 aelod gradd gyntaf o’r teulu a gafodd ddiagnosis o felanoma. (9)
Mae SCC yn fwy cyffredin ymysg pobl sydd â chroen golau, croen wedi’i niweidio gan yr haul, albinedd a xeroderma pigmentosum.
Mae’r rheini sydd ag imiwnedd diffygiol sy’n effaith eilaidd i gyffuriau imiwnoataliol, lymffoma, a lewcemia yn wynebu mwy o risg o gael SCC. Mae meddygon teulu yn rheoli nifer cynyddol o gleifion ar therapïau biolegol ac mae tystiolaeth yn dod i’r golwg sy’n dangos bod SCC yn cael ei ailysgogi fwyfwy mewn cleifion sydd â hanes blaenorol o SCC. Gall SCC ddatblygu hefyd o ganlyniad i arsenig, ymbelydredd ïoneiddio, clwyfau cronig, creithiau, llosgiadau, wlserau neu lwybrau sinws. Gall ddatblygu hefyd o friwiau blaenorol fel rhai clefyd Bowen. Gall SCC fod yn gysylltiedig â haint Feirws Papiloma Dynol. Mae tystiolaeth gynyddol yn ei gysylltu â’r defnydd o ddyfeisiau sy’n rhoi lliw haul. Mae’n bwysig bod pawb yn dilyn cyngor ar fod yn ddiogel yn yr haul, yn enwedig pobl sy’n cymryd meddyginiaeth imiwnoataliol dros y tymor hir. (10)
Mae BCC yn ganlyniad eilaidd gan mwyaf i fod yn ngolau’r haul. Mae’n digwydd ar y rhannau o’r corff sy’n agored i’r haul amlaf. Bydd BCC yn digwydd hefyd mewn pobl sydd â syndrom Gorlin â rhagdueddiad genetig a dylent gael eu rheoli gan dîm amlddisgyblaethol mewn gofal eilaidd. Ar ôl canfod BCC, mae rhai astudiaethau’n dangos bod cleifion yn fwy tebygol o gael diagnosis o BCC pellach. Mae astudiaeth yn yr Alban wedi dangos bod y risg o ddatblygu ail BCC o fewn 3 blynedd ar ôl yr ymgyflwyniad cyntaf oddeutu 44%. (3)