Caleden Actinig (AK)
Mae caleden actinig (AK) yn rhannau o’r croen sydd wedi troi’n galedennol o ganlyniad i dreulio amser yng ngolau’r haul drwy gydol oes. Yr effaith gronnol o fod yn yr haul yw’r risg. Gall y rhain fod yn friwiau ar wahân neu’n fannau coch a chennog sy’n ymdoddi ar groen sy’n agored i’r haul gan mwyaf. Maent yn effeithio ar oedolion canol oed a hŷn gan amlaf.
Gan mwyaf, mae AK yn friwiau cyn-falaen lle mae’r posibilrwydd o falaenedd yn fach. Er hynny, fe all AK ddatblygu’n friwiau malaen fel SCC. Fe all AK atchwelyd ohonynt eu hunain hefyd. Mae AK yn cael eu mesur ar raddfa tri phwynt. Gradd 1 yw bod yn weladwy a chanfyddadwy a dim mwy – yn teimlo’n rutiog ac yn anodd eu gweld. Mae AK Gradd 2 yn goch a chennog fel arfer, yn hawdd eu teimlo a’u gweld. Mae AK Gradd 3 yn dewach ac yn galed iawn: oherwydd hyn, mae’n fwy anodd gwahaniaethu rhyngddynt a SCCs. Bydd AK yn asymptomatig yn aml. Er hynny, gallant fod ynboenus ac yn goslyd weithiau. Defnyddir y term ‘newid maes’ i ddisgrifio croen sydd â nifer mawr o AK dros ran helaeth ohono
Achoseg
Mae AK yn digwydd o ganlyniad i fod yn agored i ymbelydredd uwchfioled am gyfnodau hirfaith. Bydd AK yn effeithio ar groen golau gan mwyaf ac yn digwydd ar y pen a chefnau’r dwylo gan amlaf. Un o’r ffactorau risg ar gyfer datblygu AK yw bod yng ngolau’r haul gan fod tystiolaeth foleciwlaidd wedi dangos mwtaniadau yn y genyn p53 sy’n ymwneud yn benodol â golau uwchfioled B. Mae’r rheini sy’n cael meddyginiaeth imiwnoataliol gronig, yn enwedig ar gyfer trawsblannu organau, a chleifion sydd â chlefyd llid y coluddyn a chlefydau rhewmatolegol yn fwy tebygol o ddatblygu AK. Credir hefyd fod cysylltiad â bod yn agored i effaith arsenig a defnyddio gwelyau haul. (16)
Mynychder a nifer yr achosion
Cafwyd nifer o astudiaethau o fynychder AK, a gwelwyd ei bod yn anodd ei fesur yn gywir. Credir bod hyn yn ymwneud yn rhannol â’r ffaith bod AK Gradd 1-2 yn gallu atchwelyd ohonynt eu hunain dros amser. Felly mae’n debygol bod yr amcangyfrifon yn rhy isel. Mae’r ffigurau’n amrywio rhwng 25% a70% ar gyfer datrys achosion o AK dros gyfnod o 1–4 blynedd. Mae’n debygol bod yr amcangyfrif o nifer yr achosion o AK yn rhy isel. Mae’n anodd mesur baich y AK yn y boblogaeth yn ddibynadwy.Yn fyr, mae’r data cyfunol yn awgrymu’r posibilrwydd o atchwelyd a risg fach o gynnydd malaen mewn unrhyw AK benodol. Mae presenoldeb AK yn rhagfynegi risg ychwanegol o ddatblygu NMSC arall neufelanoma wedyn o’i gymharu â phoblogaeth gyfatebol.
Mae corff o farn broffesiynol sy’n credu bod AK yn rhan o sbectrwm sy’n cynnwys SCC sefydlog, ac felly mai atal SCC yw’r rheswm dros roi therapi. Fodd bynnag, oherwydd atchwelyd sy’n digwydd ohono’i hun, ni fydd angen trin pob AK. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfiawnhau trin pob AK er mwyn atal newid malaen.
Y cyngor gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain yw mai’r ffordd fwyaf priodol i benderfynu ar ddulliau o reoli AK yw ystyried dewisiadau’r claf ynghyd â difrifoldeb, graddau, hyd a phresenoldeb y symptomau ochr yn ochr ag iechyd a lles cyffredinol y claf.