Rheoli parhad
Ar gyfer arwynebeddau mwy ar faes newid, ystyriwch y triniaethau canlynol:
Jel Solaraze ® (3% diclofenac mewn sodiwm hyalwronad)
- I’w ddefnyddio ddwywaith y dydd am 12 wythnos. Dylid ailedrych ar y claf bedair wythnos ar ôl diwedd y driniaeth i asesu’r ymateb.
- Y manteision yw ei fod yn cael ei oddef yn dda at ei gilydd fel bod modd ei ddefnyddio ar arwynebedd o unrhyw faint
- Yr anfanteision yw bod y rhan fwyaf o ddermatolegwyr yn ystyried Solaraze yn driniaeth ysgafnach,na fydd mor effeithiol o bosibl â rhai o’r triniaethau eraill, felly y peth gorau yw ei ddefnyddio ar AK sy’n denau. Ar ôl gorffen y driniaeth, gellir rheoli unrhyw AK sy’n weddill gan ddefnyddio’r triniaethau sydd wedi’u nodi yng ngham tri uchod.
Eli Zyclara ® (3.75% eli imiquimod)
- I’w roi unwaith y dydd am ddwy wythnos ac wedyn, ar ôl dwy wythnos heb driniaeth, ei roi unwaith y dydd am ddwy wythnos bellach (h.y. chwe wythnos i gyd, ond dim ond pedair wythnos o driniaeth)
- Gan amlaf, mae’r effeithiau’n llai niweidiol na’r rhai a geir wrth ddefnyddio eli Aldara ® (5%imiquimod)
- Mae sgil effeithiau imiquimod yn debyg i’r rheini ar gyfer 5-FU, yn cynnwys cochni difrifol, crachennu a chrawennu ac erydiadau neu wlseriad. Mae’n bosibl y bydd symptomau tebyg i’r ffliw yn codi hefyd ac maent yn fwy tebygol o ddigwydd os defnyddir nifer o godenni o’r feddyginiaeth ym mhob triniaeth neu os yw’n cael ei defnyddio i drin BCC arwynebol gan ei roi’n amlach na’r hyn sy’n arferol ar gyfer trin AK. Cafwyd adroddiad am un achos lle’r oedd ceratoacanthomata cructarddol wedi codi ar ôl triniaeth. Mae’r sgil effeithiau’n amrywio’n fawr rhwng unigolion, ac nid oes ffordd i rag-weld pa sgil effeithiau a welir mewn gwahanol gleifion. Bydd yr ymateb clinigol yn gymesur â’r sgil effeithiau gan mwyaf ac, os bydd cleifion yn terfynu’r driniaeth yn gynnar oherwydd tostrwydd eithafol, mae’n bosibl, er hynny, y byddant yn cael ymateb da. Bydd sgil effeithiau’n cael eu goddef yn dda ar y cyfan, ond mae’n bwysig cwnsela cleifion yn ofalus gan rag-weld y bydd rhai’n profi adweithiau clinigol mwy eithafol.
Dermatosis llinorog erydol ar groen y pen
- Mae’n anhwylder anghyffredin sy’n effeithio ar rannau o groen y pen a niweidiwyd gan olau uwchfioled mewn cleifion hŷn. Mae’n ymddangos bod y risg o’i gael yn cynyddu ar ôl rhoi triniaeth am caleden actinig, yn enwedig os defnyddir cryotherapi.
- Yn glinigol, ceir gwahanol raddau o greithiau sy’n gysylltiedig â chrawennau brownfelyn, llinorod,llynnoedd o grawn, erydiadau ac wlseriad
- Y brif driniaeth yw steroidau argroenol cryf iawn (16)
Sgil effeithiau triniaethau argroenol a sut i’w rheoli:
Dylid cynghori cleifion ar sut i reoli’r sgil effeithiau, a bydd y strategaethau’n cynnwys seibiant yn y driniaeth, newid amlder taenu’r driniaeth, defnyddio eli lliniarol ac, mewn rhai achosion, rhoi steroid argroenol.