Rheoli parhad
Mae cryolawdriniaeth yn driniaeth hirsefydlog ar gyfer AK. Mae angen chwistrell cryo (neu wlân cotwm a ffyn pren oren) a chyflenwad o nitrogen hylif. Bydd yr amser ar gyfer eu clirio’n llwyr yn amrywio yn ôl hyd y cyfnod rhewi a nifer y triniaethau: bydd 6–12 wythnos rhyngddynt fel arfer.Wrth roi cryotherapi, dylid defnyddio un cylch rhewi a dadmer tua deg eiliad o hyd (dylid osgoi’r rhan o’r goes uwch y ffêr at ychydig o dan y pen-glin oherwydd y risg o wlseriad ar y goes). Maecryolawdriniaeth yn therapi hyblyg sy’n galw am fedrusrwydd wrth ei roi. Wrth ddefnyddio dosau mwy, mae’n debygol o arwain at golli pigment a chreithio. Mae’n bwysig cwnsela cleifion ynghylch yr effeithiau tymor byr a hir. Yn benodol, dylai cleifion fod yn ymwybodol o bothellu, edemata,crawennu a thostrwydd. Y dosau sy’n briodol ar gyfer AK fel arfer yw < 10 eiliad, ond bydd rhywfaint o risg o niwed o hyd i strwythurau o danynt fel gewynnau a nerfau os cânt eu rhoi ar gefn y dwylo. O dan y pen-glin, gall arafwch wrth wella fod yn broblem, yn enwedig ymysg cleifion hŷn sydd â AK.
Eli Efudix ® (5-FU) – i’w roi bob nos am bedair wythnos. Rhaid golchi’r dwylo’n drwyadl ar ôl ei roi.Dylid gadael y mannau sydd wedi’u trin yn agored a’u golchi bore trannoeth. Dylid hysbysu cleifion y dylent ddisgwyl cael cochni ac anghysur ysgafn yn ystod cyfnod y driniaeth
Mae toddiant Actikerall ® yn driniaeth newydd sy’n cynnwys 5-FU ynghyd ag asid salicylig. Mae wedi’i drwyddedu ar gyfer trin AK gorgaledennol o drwch cymedrol. Mae i’w ddefnyddio unwaith y diwrnod am 6-12 wythnos.
Ar gyfer arwynebeddau llai lle mae newid maes (e.e. arwynebedd o faint cledr y llaw neu’r rhan fwyaf o’r talcen), dylid ystyried y triniaethau canlynol:
Eli Aldara ® (5% imiquimod)
- I’w ddefnyddio dair noson yr wythnos e.e. nos Lun, nos Fercher a nos Wener am bedair wythnos.Dylid ei roi dros nos a’i olchi i ffwrdd bore trannoeth. Ar ôl pedair wythnos, dylid atal y driniaeth ac ystyried defnyddio steroid argroenol ysgafn e.e. 1% Hydrocortison neu eli Eumovate ®ddwywaith y dydd am ddwy i bedair wythnos i helpu i sefydlogi unrhyw lid. Dylid gwneud archwiliad dilynol dri mis ar ôl dechrau’r driniaeth ac ailadrodd y driniaeth os bydd angen.
- Y manteision yw ei fod yn effeithiol iawn at ei gilydd o ran clirio ac ymddangosiad cosmetig ar ôl gwella’r llid.
- Yr anfanteision yw cochni amlwg a chrawennu ar y croen a dylid rhybuddio cleifion i ddisgwyl hyn. Bydd amseriad y driniaeth yn bwysig a bydd yn well ei hosgoi yn ystod y gwyliau ac ar adeg achlysuron cymdeithasol pwysig. Bydd rhai cleifion yn datblygu symptomau tebyg i’r ffliw yn ystod y driniaeth.
Eli Efudix ® (5-FU)
- I’w ddefnyddio unwaith y dydd am bedair wythnos. Dylid ei daenu’n denau gyda’r nos a’r bysmewn maneg, neu dylid golchi’r bys ar ôl ei daenu. Dylid golchi’r man a driniwyd bore trannoeth.Dylid atal y driniaeth ar ôl pedair wythnos ac ystyried defnyddio steroid argroenol ysgafn e.e. 1%Hydrocortison neu eli Eumovate ® ddwywaith y dydd am ddwy i bedair wythnos i helpu i sefydlogi unrhyw lid. Dylid gwneud archwiliad dilynol dri mis ar ôl dechrau’r driniaeth.
- Mae’r manteision ac anfanteision yn debyg i’r rheini ar gyfer Aldara ®, er nad yw cleifion yn datblygu symptomau tebyg i’r ffliw.
- Mae’n bwysig cwnsela’r cleifion ynghylch y sgil effeithiau, yn cynnwys tostrwydd, cochni a’r posibilrwydd o grawennu. Gellir lleihau pob un o’r rhain drwy roi’r eli yn llai aml neu gymryd seibiau byr yn ystod y therapi. Caniateir golchi’r man a driniwyd a thaenu eli lliniarol yn denau.Mae’n bwysig galluogi’r claf i ddysgu sut i ddefnyddio’r driniaeth, gan ei bod yn bosibl y bydd angen iddo ei defnyddio’n ysbeidiol yn y dyfodol a byddai profiad cychwynnol gwael yn gallu cyfyngu’r defnydd pellach ohoni. (Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain)
- Dylid bod yn ofalus bob amser wrth ei ddefnyddio ar fannau sy’n wael o ran gwella fel rhan isaf y goes ac mae’n bosibl y bydd angen goruchwylio hyn. Yn fwy diweddar, mae 5-FU 0 5% mewn10% asid salicylig wedi’i werthuso a gellir ei roi ar bresgripsiwn. (Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain)
Jel Picato ® (ingenol mebwtad, ar ffurf 150 µg/g neu 500 µg/g)
- Triniaeth newydd.
- Mae’r manteision yn debyg i’r canlyniadau sydd wedi’u disgrifio uchod ond, yn ogystal â hynny, mae cyfnod y driniaeth a’r cyfnod ymadfer yn fyr iawn o’u cymharu â’r triniaethau argroenol eraill.
- Ar gyfer y wyneb a chroen y pen – rhoi’r fformiwla 150 µg/g am 3 diwrnod ar ôl ei gilydd yn unig.
- Ar gyfer y bongorff a’r traed a’r dwylo - rhoi’r fformiwla 500 µg/g am 2 ddiwrnod ar ôl ei gilydd yn unig.
Therapi ffotodynamig
- Mae’n cael ei ddarparu gan rai adrannau dermatoleg ac weithiau mewn clinigau ymarferwyr cyffredinol â diddordeb arbennig.
Yn aml bydd un driniaeth yn effeithiol ar gyfer arwynebedd ar faes newid. Bydd y croen yn sefydlogi o fewn ychydig ddyddiau ar ôl y driniaeth. Ceir canlyniadau cosmetig da.