Carsinoma Celloedd Cennog (SCC)
Mae SCC yn diwmor malaen sy’n codi o ganlyniad i geratineiddio celloedd yr epidermis neu ei atodion. Gall droi’n ymledol yn ei leoliad a gall dyfu ar chwâl.
Fel arfer, bydd SCC ar ffurf tiwmor nodylaidd wedi caledu sy’n ceratineiddio neu’n grawennog. Gall droi’n friw, neu gall fod ar ffurf wlser heb dystiolaeth o geratineiddio. Gallant waedu a byddant yn dyner yn aml wrth eu harchwilio. Os yw’n bosibl bod claf wedi cael SCC croenol, dylid atgyfeirio’r achos fel achos tybiedig o ganser sy’n un brys.
Yn gyffredinol, mae dau fath gwahanol o SCC: SCC sy’n ymddangos yn debyg i gelloedd normal (llai ffyrnig) a SCC nad yw’n ymddangos yn debyg i gelloedd normal i raddau cymedrol neu ddifrifol (mwy ffyrnig).
SCC sy’n ymddangos yn debyg i gelloedd normal
Gan amlaf, bydd y rhain yn tyfu’n arafach gydag arwyneb caledennol yn y cyfnodau cynnar. Tra bydd y tiwmor yn tyfu, bydd y ceratin a gynhyrchir a’r trwch cellog yn troi at ymledu cellog gan beri i’r arwyneb droi’n friw a bydd y twf yn digwydd yn bennaf ar yr ymylon a bydd arwynebedd cynyddol o feinwe gronynnog yn y canol. Gall yr arwyneb gael ei golli, gan ddatguddio wlser wedi caledu. Gall yr wlser hwn ddiferu, gwaedu a bod yn grawnllyd; gall ei ymylon fod wedi’u “tyllu allan”, tra gellir dweud bod wlser BCC yn un sydd ag ymylon mwy tonnog.
SCC nad yw’n ymddangos yn debyg i gelloedd normal i raddau cymedrol neu ddifrifol
Mae arwyneb ceratin mwy anhrefnus ar y rhain sydd yn aml yn denau ac o bosibl yn absennol. Gellir cael wlseriad gweladwy gyda thiwmor nad yw’n ymddangos yn debyg i gelloedd normal (anaplastig), lle gall y stratum corneum fod wedi’i erydu. Fe’i gwelir yn fwy aml ar wefusau a’r genitalia. Gall ymddangos yn debyg i feinwe gronynnog. (12)