Y posibilrwydd y bydd SCC yn tyfu ar chwâl

Mae’r lleoliad anatomegol yn ddylanwad mawr ar y posibilrwydd y bydd y tiwmor yn tyfu ar chwâlRhai dylanwadau eraill sy’n cynyddu’r posibilrwydd o dyfu ar chwâl yw: mainttrwch y tiwmorlefel yr ymleduy gyfradd twfman cychwyn yr anhwyldergraddau’r ymddangosiad histolegol tebyg i gelloedd normal a’r gwrthimiwnedd yn y claf 

Mae’r rhestr isod yn dangos y risgiau o dyfu ar chwâl, o’r rhai lleiaf i’r rhai mwyaf (British Association of Dermatologists)(10)  

  1. SCC yn codi ar leoliadau sy’n agored i’r haul, heb gynnwys gwefusau a chlustiau 
  2. SCC ar y gwefus 
  3. SCC ar y glust  
  4. Tiwmorau’n codi ar leoliadau nad ydynt yn agored i’r haul (e.e. perinëwm, sacrwm, gwadnau traed) 
  5. SCC yn codi mewn mannau lle cafwyd ymbelydredd neu anaf thermolsinysau draenio cronigwlserau cronigllid cronig neu glefyd Bowen.  

Mae maint y SCC yn berthnasol i’r posibilrwydd o dyfu ar chwâl hefyd: Mae tiwmorau >2 cm o ddiamedr yn ddwywaith yn fwy tebygol o ailddigwydd yn lleol ac yn dair gwaith yn fwy tebygol o dyfu ar chwâl nag y mae SCC llaiMae tiwmorau sydd yn fwy na 4 mm o ddyfnder (heb gynnwys haenau ceratin ar yr arwynebneu sy’n ymestyn i mewn neu’n bellach na’r meinwe isgroenol yn fwy tebygol o ailddigwydd a thyfu ar chwâl na’r SCC teneuachMae SCC sy’n llai na 4mm o ddyfnder sydd yn hanner uchaf y dermis yn unig yn llai tebygol o lawer o ailddigwydd neu dyfu ar chwâlAnaml y bydd SCC sy’n < 2mm o drwch yn tyfu ar chwâl.  

Mae gwrthimiwnedd yn y claf yn gysylltiedig â phrognosis gwaeth: Fel arfer bydd y prognosis yn waeth i gleifion sy’n cymryd meddyginiaeth imiwnoataliolYn aml bydd y cleifion hyn yn cael mwy o SCCs ymledol lleol sy’n fwy tebygol o dyfu ar chwâl. 

Mae moddolder y driniaeth yn gallu effeithio ar y tebygolrwydd y bydd SCC yn ailddigwydd: Mae’r risg y bydd SCC yn ailddigwydd yn dibynnu ar foddolder y driniaeth flaenorolMae llawdriniaeth ficrograffig Moh yn cael ei chysylltu â’r risg leiaf o ailddigwydd. 

Rheoli 

Rhaid atgyfeirio pob achos tybiedig o SCC fel USC.  

Mae’r holl arbenigwyr (dermatoleg a llawfeddygaeth blastigyn cytuno bod tri phrif ffactor yn dylanwadu ar driniaeth ar gyfer SCC y croen ac ymyl fermiliwn y wefus (heb gynnwys SCC sy’n digwydd ar y pidyny fwlfa, yr anwsSCC sefydlog, SCC yn codi o bilenni mwcaidd a cheratoacanthoma); 

  • Yr angen i dynnu’r cyfan ohono neu i drin y prif diwmor cynradd  
  • Y posibilrwydd bod metastatisau lleol yn bresennol  
  • Y duedd i fetastatisau ymledu drwy bibellau lymff i chwyddau lymff rhanbarthol  

Dylid dehongli canllawiau ar gyfer trin SCC gan ystyried y canlynol:   

  • Mae ymddygiad malaen y tiwmorau sydd yng nghategori diagnostig histolegol y SCC croenol cynradd yn amrywio’n fawr. 
  • Ni chafwyd hapbrofion gyda rheolydd ar gyfer trin SCC croenol cynradd. 
  • Bydd ymarferwyr llawfeddygaeth blastig a llawfeddygon y genau a’r wyneb yn dod ar draws tiwmorau ffyrnig sy’n peri risg fawr gan amlaf, tra bydd dermatolegwyr yn delio’n bennaf â briwiau llai a llai ffyrnig, felly bydd y dulliau o reoli yn amrywio. 

Ar gyfer trin SCC arwynebol, torri allan gan lawfeddyg yw’r driniaeth a ffefrirAr gyfer tiwmorau sy’n peri risg fawr sydd â diffiniad clinigol da sy’n llai na 2 cm o ddiamedrtorri allan gan lawfeddyg ag ymyl o 4 mm o leiaf o gwmpas ffin y tiwmor sy’n briodolByddai ymyl llai yn gallu gadael tiwmor gweddillol. 

Ar gyfer SCCs â diamedr o fwy na 2 cm, nad ydynt yn ymddangos yn debyg i gelloedd normal i raddau cymedrol neu ddifrifolsy’n ymestyn i’r meinwe isgroenol neu’r rheini sydd ar y glusty wefuscroen y penyr amrannau neu’r trwyn, dylid eu tynnu gan adael ymyl lletach o 6mm neu fwyDylid archwilio’r meinwe bob amser ar gyfer histoleg neu wrth gyflawni llawdriniaeth ficrograffig Moh.  

Os bydd SCC yn tyfu ar chwâl, bydd hyn yn digwydd fel arfer drwy chwyddau lymff lleol a dylid gwneud archwiliad histolegol o chwyddau y gwelwyd eu bod yn fwy (er enghraifft, drwy allsugno drwy nodwydd fân neu fiopsi sy’n torri allan y briw cyfan). Bydd unrhyw chwyddau lymff sy’n rhoi canlyniad cadarnhaol yn cael eu rheoli drwy eu difynu yn y rhanbarth. 

O safbwynt gofal sylfaenol, y dull o reoli yw atgyfeirio’r achos fel USC. O safbwynt gofal eilaidd, parhau i reoli’r anhwylder yw’r dull o reoliMae angen parhau ag ymchwil a dod i gonsensws ynghylch y dull rheoli cyffredinol. (10) 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau