Ceratoacanthoma
Mae ceratoacanthomata (KA) yn friwiau ar y croen sy’n tyfu’n gyflym ac yn digwydd dros y corff, ar rannau o’r croen sy’n agored i’r haul yn bennaf. Maent yn diwmorau sy’n datblygu’n gyflym ac wedi’u ffurfio gan gelloedd cennog sy’n ceratineiddio ac yn tarddu o ffoliglau blew chwarennau sebwm.
Gallant ymddangos yn debyg iawn i SCC sydd â golwg debyg i gelloedd normal. Gall eu hymddygiad wrth dyfu fod yn ffordd i wahaniaethu rhyngddynt a SCC. Gall KA dyfu’n gyflym dros 12wythnos. Mae’n dechrau ar ffurf ploryn crwn bach a solet o’r un lliw â’r croen. Bydd yn gymesur gan mwyaf, yn grwn gydag ysgwydd llyfn o groen a chnewyllyn ceratin yn ei ganol. Fel arfer bydd yn 1-2cm a gall fynd yn fwy. Mewn achosion prin, gall KA ymddangos yn felyn ac felly bron yn frasterog.
Achoseg
Mewn rhai lleoliadau, gall KA ddigwydd yn dilyn anaf i’r croen. Mae rhannau o’r croen sy’n agored i’r haul yn ffactor allweddol sy’n cyfrannu at eu lleoliad anatomegol. Maent yn fwy tebygol o effeithio ar wrywod nag ar fenywod.
Rheoli
Y canllaw cyffredinol yw ei bod yn anodd gwahaniaethu ar sail glinigol a histolegol rhwng KA a SCC, felly dylid atgyfeirio’r achos fel USC i ymarferwyr gofal eilaidd er mwyn ei reoli ymhellach. Os bydd KA yn cael eu gadael heb eu trin, bydd nifer mawr ohonynt yn ymddatrys. (18)