Crynodeb
Ymarferwyr gofal sylfaenol sy’n cymryd y rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau cyntaf am ganser y croen. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod canser y croen yn rhan allweddol o’i bil iechyd i wella’r ddarpariaeth ar gyfer canfod, trin a goroesi canser. Yr ymgyrch ‘Herio’r Haul’ ar gyfer y DU sy’n cael ei chynnal drwy Cancer Research UK yw’r brif ffynhonnell ar hyn o bryd ar gyfer cyngor ar arferion diogel yn yr haul i’r holl gleifion sy’n wynebu risg ac sydd wedi cael diagnosis o ganser y croen. Mae hyn yn mynd law yn llaw â chyngor ar lefelau iach o fitamin D.
Mae nifer yr achosion o ganser y croen o bob math yn cynyddu ledled Cymru a’r DU. Mae data yn dangos bod y niferoedd yn y cenedlaethau iau sy’n cael eu gweld â chanserau’r croen, yn cynnwys BCC a melanomata, yn fwy nag mewn cenedlaethau blaenorol. Dylai meddygon teulu fod yn effro i’r posibilrwydd o weld briwiau ar y croen mewn cleifion iau, yn 30-39 mlwydd oed ar gyfer BCC, ac o 20mlwydd oed ar gyfer melanoma. Hefyd, yn ogystal ag atgyfeirio cleifion â briwiau croen penodol at ddermatolegwyr, dylid ystyried atgyfeirio’r rheini mewn grwpiau uchel eu risg ar gyfer ffotograffiaeth linell sylfaen a monitro parhaus.
Y prif gyrff arweiniol ar ganser y croen yn y DU yw NICE, PCDS a Chymdeithas Dermatolegwyr Prydain.Mae NICE wedi pennu pa friwiau croen fel Melanoma, SCC a BCC mewn lleoliadau anatomegol sy’n peri pryder a ddylai gael eu hatgyfeirio fel USC. Yn ogystal â hyn, dylai ceratoacanthomata gael eu hystyried yn SCC nes profi fel arall a dylid eu hatgyfeirio fel USC. Ymysg yr achosion tybiedig o ganser nad ydynt yn rhai brys y mae rhai sy’n ymwneud â BCC, clefyd Bowen, AK, ac unigolion sydd drwy ddiffiniad yn wynebu risg fawr o ganser y croen, yn cynnwys melanoma â >100 o fannau geni, gwallt coch, mannau geni annodweddiadol, a >2 aelod gradd gyntaf o’r teulu a gafodd ddiagnosis o felanoma.
Mae nifer o wahanol opsiynau ar gael i drin canser y croen. Oherwydd hyn, mae’n hollbwysig dod i gyd-ddealltwriaeth o’r moddau triniaeth hyn gyda chleifion, er mwyn iddynt wneud y penderfyniad ar driniaeth sy’n fwyaf addas iddyn nhw.
Mae darganfod yn gynnar, diagnosis a llwybrau atgyfeirio cywir yn gwella’r mynediad at driniaeth. Mae hyn yn hanfodol i wella canlyniadau triniaeth i gleifion ac i leihau’r baich cynyddol o gostau ar y GIG.
Y cyngor gan PCDS yw y dylai o leiaf un meddyg teulu ym mhob practis gael ei hyfforddi i ddefnyddiodermatosgopi. Y cwrs achrededig a ddarperir gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol sy’n cael ei argymell ar gyfer hyn. Dylai hyn ganiatáu atgyfeirio mewnol rhwng meddygon teulu er mwyn helpu i leihau’r baich cyffredinol o atgyfeiriadau. Mae clinigau gwell ar gyfer trin canser y croen mewn gofal sylfaenol wedi’u sefydlu ledled Cymru er mwyn gwella mynediad lleol drwy glinigau canser y croenmewn gwasanaethau allgymorth cymunedol a thrwy’r model gwasanaethau ychwanegol dan gyfarwyddyd/gwasanaethau ychwanegol lleol.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.