Llywodraeth Cymru a chanser y croen

Law yn Llaw at Iechyd, Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser y GIG hyd at 2016

Canser yw un o’r ddau brif achos mewn marwolaethau cyn pryd yng Nghymru. Gan fod ein poblogaeth yn heneiddio, mae’r galw am ofal canser yn cynyddu. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r cynllun isod i reoli canser y croen yn well yng Nghymru:

Mentrau Atal

Un o brif nodau’r Llywodraeth yw lleihau nifer yr achosion o bob math o ganser yng Nghymru drwy gamau atal sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai canser y croen, yn cynnwys canser y croen nad yw’n felanoma a melanoma malaen, yw’r canser sy’n cael ei ganfod amlaf yng Nghymru. Prif achos canser y croen yw cael gormod o olau’r haul, ac mae newidiadau cymharol fach yn y ffordd y mae pobl yn ymddwyn yn yr haul yn gallu lleihau’r risg i’r unigolyn.

Y nod yw hybu ffyrdd o ymddwyn sy’n amddiffyn rhag yr haul drwy ymgyrchoedd cenedlaethol a mentrau lleol sy’n darparu addysg a chyngor drwy Dimau Gofal Iechyd Sylfaenol.

Mesurau Atal Canser y Croen Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru

Mae hybu iechyd ac atal afiechyd yn gyfrifoldeb i’r Byrddau Iechyd ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Un fenter allweddol sy’n ymwneud yn benodol â chanser yw “Herio’r Haul”, ymgyrch i’r DU ar gyfer atal canser y croen a hybu ymwybyddiaeth o’r haul sy’n cael ei rhedeg gan Cancer Research UK ar ran adrannau iechyd y DU.

Bydd mentrau presennol i hybu bwyta’n iach ac ymarfer corff mewn perthynas â gofal coronaidd yn cael eu defnyddio hefyd i atal canser.

Canfod Achosion yn Gynnar 

Mae adnabod arwyddion rhybudd posibl o ganser a chael cyngor meddygol yn gynnar yn ffactorau sy’n gysylltiedig â chael diagnosis yn gynharach a mwy o debygolrwydd o gael canlyniad llwyddiannus.

Canfod canser y croen – sut i sylwi’n gynnar ar y newidiadau

Mae gweithwyr mewn rolau proffesiynol sy’n gysylltiedig â chanfod canser, h.y. mewn gofal sylfaenol, yn gymwys i adnabod symptomau canser yn cynnar. Nod y fenter Sgiliau Iechyd yw helpu i wella sgiliau. Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) ar atgyfeirio achosion tybiedig o ganser yn cael eu gweithredu er mwyn cyflawni hyn.  

Canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) ar atgyfeirio achosion tybiedig o ganser

Ar hyn o bryd, nid oes rhaglen gyffredinol yn y DU ar gyfer sgrinio canser y croen. Mae Timau Gofal Iechyd Sylfaenol yn chwarae rhan allweddol drwy adnabod grwpiau sy’n wynebu risg fawr a thrwy atgyfeirio achosion tybiedig at ddermatolegwyr mewn ysbytai ac at Dimau Arbenigol Amlddisgyblaethol.

Gwella Mynediad

Y nod polisi ar gyfer hyn yw darparu gwasanaethau diagnosis, triniaeth a gofal lliniarol i bobl sydd â chanser sydd gystal neu’n well na’r goreuon yn Ewrop. Yn benodol, y nod yw cyrraedd a chynnal cyfraddau goroesi am un flwyddyn a phum mlynedd sy’n debyg i’r cyfraddau yn y chwartel uchaf yn Ewrop erbyn 2015.

Gwasanaethau Gwell

Mae System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (CaNISC) yn darparu cymorth ar gyfer archwilio clinigol. Mae archwilio clinigol yn delio’n systematig â materion ansawdd drwy ddarparu gwybodaeth ddibynadwy er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau. (1)


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau