Atgyfeirio achosion tybiedig o ganser sy’n rhai brys lle mae briwiau ar y croen

Dylai achosion o felanoma, SCC a cheratoacanthoma gael eu hatgyfeirio fel achosion tybiedig o ganser sy’n rhai brys (USC)Dylid hefyd gynnwys BCC sydd mewn mannau anatomegol arwyddocaol lle byddai oedi cyn eu tynnu yn arwain at ganlyniad cosmetig gwael neu hyd yn oed yn ei gwneud yn amhosibl eu gwella drwy lawdriniaeth. 

Melanoma malaen y croen 

Mae NICE yn argymell cymhwyso’r meini prawf canlynol wrth atgyfeirio achos tybiedig o felanoma. 

  • Os yw dermosgopi yn awgrymu bod melanoma ar y croen. 
  • Briw â phigment neu heb bigment ar y croen sy’n awgrymu melanoma nodylaidd.  
  • Sgôr o 3 neu fwy wrth ddefnyddio’r rhestr wirio 7 pwynt ar gyfer atgyfeirio USC.
Rhestr wirio 7pwynt wedi’i phwysoli 
Prif nodweddion y briwiau (sgôr o 2 bwynt yr un): 
  • newid yn eu maint 
  • siâp afreolaidd 
  • lliw afreolaidd 
Nodweddion llai pwysig y briwiau (sgôr o 1 pwynt yr un): 
  • y diamedr mwyaf yn 7 mm neu’n fwy 
  • llid 
  • diferu 
  • newid mewn teimlad 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1. Carsinoma celloedd cennog (SCC)

Dylid atgyfeirio achosion lle mae briwiau SCC tybiedig fel USC. 

2. Carsinoma celloedd gwaelodol (BCC)  

Os oes pryderon penodol am effaith y rhestr aros, lle byddai oedi’n gallu cael effaith sylweddol, mewn cysylltiad â lleoliad neu faint y briw er enghraifft, yna dylid ystyried atgyfeirio’r achos fel USC. (8) 

3. Ceratoacanthoma  

Cymerir bod pob ceratoacanthoma yn SCC nes profir fel arall. 

Mae Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain (BAD) yn argymell atgyfeirio USC lle mae’r pryderon canlynol am felanoma yn codi: 
  • Man geni newydd sy’n tyfu’n gyflym ar ôl cyrraedd glasoed 
  • Man geni sydd ar y croen ers cyfnod hir sy’n newid ei siâp neu ei liw yn raddol beth bynnag yw oed unrhyw fan geni sydd â thri lliw neu ragor neu sydd wedi peidio â bod yn gymesur 
  • Unrhyw nodwl newydd sy’n tyfu ac sydd â phigment neu sydd â golwg fasgwlaidd 
  • Llinell newydd â phigment mewn ewin 
  • Rhywbeth sy’n tyfu o dan ewin 
  • Man geni y mae ei ymddangosiad wedi newid ac sydd hefyd yn cosi neu’n gwaedu (9) 

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau