Atal a rheoli achosion y rheini sy’n wynebu’r risg o gael canser y croen
Gall meddygon teulu ganfod y rheini sy’n wynebu risg fawr o gael melanoma drwy ddilyn y canllawiau uchod ac atgyfeirio cleifion yn rheolaidd i gael barn am risg. Dylid darparu cyngor ar fod yn ddiogel yn yr haul yn ystod ymgyngoriadau ar iechyd y croen. Wrth gynnal adolygiadau blynyddol ar gyfer cleifion sy’n cymryd cyffuriau imiwnoataliol, dylid crybwyll technegau hunanarchwilio ar gyfer canser y croen, a chynnig archwiliadau croen i chwilio am SCC. Dylid awgrymu adolygiad blynyddol ar gyfer y rheini a gafodd ddiagnosis o BCC am fod BCC pellach yn debygol o ddigwydd yn gynyddol yn y 3 blynedd sy’n dilyn. Dylid gosod posteri Cancer Research UK yn y feddygfa i hyrwyddo cyngor ar fod yn ddiogel yn yr haul.
Ymgyrch genedlaethol Cancer Research UK “Herio’r Haul”
Mae’r llun isod yn dangos cyngor Cancer Research UK ar sut i fod yn ddiogel yn yr haul. Mae’n dangos hynny ochr yn ochr â chyngor am yr angen i wneud fitamin D drwy fod yng ngolau’r haul. Dylid tynnu’r cyngor hwn i sylw’r holl gleifion sy’n dod atoch â phroblemau croen sy’n gysylltiedig â’r haul.
Mae angen fitamin D i gadw esgyrn cryf. Pelydrau uwchfioled o’r haul yw prif ffynhonnell fitamin D mewn pobl. Ceir fitamin D hefyd mewn bwydydd, er nad yw hyn yn ddigon i ddiwallu anghenion cyrff dynol. Ceir fitamin D mewn bwydydd fel melynwy, pysgod olewog fel mecryll a sardîns, olew iau pysgod a rhai grawnfwydydd cyfnerthedig.
Mae diffyg fitamin D dros gyfnodau hir yn arwain at feddalu esgyrn gan achosi’r llechau mewn plant ac osteomalacia mewn oedolion.
Mae’r llywodraeth yn argymell bod pobl sydd mewn perygl o brofi lefelau isel o fitamin D yn cymryd atchwanegiadau, ac y dylai pawb ystyried eu cymryd dros y gaeaf.
Beth yw cydbwysedd da o ran fitamin D?
Y math o groen sydd gennych, yr adeg o’r dydd, yr adeg o’r flwyddyn, a ble rydych chi yn y byd – mae’r rhain i gyd yn effeithio ar faint y golau haul y mae’n iach ei gymryd i mewn i’r corff. Nid yw’n bosibl gwneud un argymhelliad i bawb o ran maint y golau haul sydd ei angen i wneud digon o fitamin D. Os oes gennych groen o liw tywyllach, mae angen bod yn hirach yn yr haul, ond bydd llai o risg i chi gael llosg haul a chanser y croen. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â chroen gwyn yn debygol o wneud digon o fitamin D drwy fod yn yr haul yn achlysurol am gyfnodau byr heb amddiffyniad rhag yr haul wrth fynd o gwmpas o ddydd i ddydd. Er mwyn cael cydbwysedd da yn ddiogel yn yr haul, ni ddylech orfod cochi neu losgi’ch croen i wneud digon o fitamin D. Er mwyn cael y cydbwysedd hwn, mae angen i chi wybod am eich croen eich hun a deall pa mor hir y gallwch fod yn yr awyr agored heb gael llosg haul o dan wahanol amodau.