Pa bobl a all fod heb ddigon o fitamin D?
Mae Llywodraeth y DU wedi argymell bod pobl mewn grwpiau agored i niwed sydd â lefel isel o fitamin D yn cymryd atchwanegiad 10 microgram o fitamin D bob dydd drwy gydol y flwyddyn. Lluniwyd y rhestr isod gan ymgyrch Herio’r Haul ac mae’n dangos y rheini sydd mewn perygl o fod â lefelau is o fitamin D.
- Pobl â chroen brown neu ddu naturiol, er enghraifft, pobl o dras Affricanaidd, Affro-Caribïaidd neu Dde-Asiaidd
- Pobl sydd fel arfer yn gwisgo dillad sy’n cuddio’r rhan fwyaf o’u croen pan fyddant yn yr awyr agored
- Pobl sydd dros 65 oed
- Menywod sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron
- Babanod a phlant o dan 5 oed
- Pobl nad ydynt yn mynd i’r awyr agored yn aml, er enghraifft, rhai sydd mewn ysbyty neu sy’n gaeth i’r tŷ yn aml
Mae’r Llywodraeth yn argymell y dylai pobl ystyried cymryd atchwanegiad fitamin D rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Y rheswm am hyn yw bod lefelau’r golau uwchfioled yn y DU, fel llawer o wledydd eraill yng ngogledd Ewrop, yn is o lawer nag mewn rhannau eraill o Ewrop.
Mae Cancer UK wedi llunio’r rhestr isod o ddulliau i leihau niwed gan yr haul:
- Treulio amser yn y cysgod, rhwng 11am a 3pm yn bennaf yn y DU
- Cuddio’r corff â dillad, gwisgo het â chantel mawr a sbectol haul o ansawdd da
- Defnyddio sgrin haul â lefel amddiffyn o SPF15 o leiaf a 4 seren. Rhowch ddigon ohono ar eich croen a gwneud hynny droeon drwy gydol y dydd
- Mae’n bwysig bod y marc CE a Safon Brydeinig ar y sbectol haul, yn ogystal â label UV 400 a label neu sticer sy’n dweud ‘100% UV protection’. Gofalwch hefyd fod y sbectol yn amddiffyn ochr y llygad, er enghraifft, sbectol sy’n ‘lapio’ y llygaid.
Mae rhywfaint o dystiolaeth o waith ymchwil sy’n awgrymu bod pobl sy’n rhoi sgrin haul cyn torheulo yn treulio mwy o amser yn yr haul, a’u bod yn fwy tebygol o gael llosg haul. Mae sgriniau haul ffactor uchel yn gallu rhoi ymdeimlad o ddiogelwch sy’n ddi-sail. Mae’n bwysig cydnabod nad yw sgrin haul, yn cynnwys sgrin haul â ffactor uchel iawn, yn gallu rhoi amddiffyniad llwyr.