Canser y Croen yng Nghymru: Y cefndir

Y tri math o ganser y croen sy’n fwyaf cyffredin yw carsinoma celloedd gwaelodol (BCC), carsinoma celloedd cennog (SCC) a melanoma. Mae nifer yr achosion o bob un o’r rhain ar gynnydd yng Nghymru a’r DU.

Wrth asesu cefndir canser y croen, mae cofnodion ystadegol yn cael eu didoli rhwng canserau croen nad ydynt yn felanoma (NMSC) a chanser croen melanoma. NMSC yw 20% o’r holl fathau o ganser a 90% o’r holl fathau o ganser y croen. (2)

Amcangyfrifwyd bod 147,000 o achosion newydd o NMSC yn cael eu canfod yn y DU bob blwyddyn. Mae nifer yr achosion o NMSC yn cael ei dangofnodi i raddau mawr am fod briwiau lluosog ar y croen ac nad yw biopsi yn cael ei wneud ar bob un ohonynt. Cafwyd 1,319 o farwolaethau o ganlyniad i NMSC ledled y DU yn 2017. (2)

Mae BCC yn fath o NMSC. Dyma’r math o ganser sy’n fwyaf cyffredin yn y DU, a chofrestrwyd 48,000 o achosion newydd y flwyddyn ar gyfartaledd yn Lloegr rhwng 2004 a 2006. BCC yw 80% o’r holl achosion o ganser y croen yn y DU. Credir bod y baich gwirioneddol yn fwy o lawer na’r amcangyfrif gan nad yw’r rhan fwyaf o gofrestrfeydd canser yn cofrestru BCC lluosog yn yr un unigolyn ac am nad yw’r holl achosion o BCC yn cael eu cyflwyno ar gyfer profion histoleg. Felly mae nifer yr achosion newydd a geir bob blwyddyn yn fwy tebygol o fod rhwng 55,000 a 60,000, yn ôl amcangyfrifon wedi’u seilio ar ddata coll tybiedig. Amcangyfrifwyd mai BCC yw 80% o’r holl fathau o ganser y croen. Y risg gydol oes o gael BCC ymysg y boblogaeth wyn yn y DU yw 33-39% ar gyfer dynion a 23-28% ar gyfer menywod.

Mae nifer yr achosion o BCC ar gynnydd. Cofnodwyd y cynnydd mwyaf yn nifer yr achosion yn y grŵp oedran 30–39 oed. Ymysg rhai hŷn na 55 mlwydd oed, mae mwy o ddynion nag o fenywod yn cael BCC. Mae cyfraddau’r achosion o BCC yn cynyddu wrth heneiddio ar gyfer y ddau ryw. Mae diagnosis hwyr ynghyd â thriniaeth annigonol yn gallu arwain at diwmorau sy’n dinistrio strwythurau anatomegol pwysig. Gall fod yn anodd cael canlyniad cosmetig da mewn rhannau o’r corff fel y pen a’r gwddf, a’r trwyn, y llygaid, y clustiau a’r gwefusau’n enwedig, fel ei bod yn bosibl na fydd modd gwella’r briw drwy lawdriniaeth. Gellir cymharu baich y gost am reoli achosion o BCC ar sail nifer y dyddiau gwely claf mewnol â chost y dyddiau gwely claf mewnol am reoli melanoma malaen yn Lloegr. (3)

Mae carsinoma celloedd cennog (SCC) yn canserau croen nad ydynt yn felanoma (NMSC). Mae nifer yr achosion o SCC ar gynnydd. Y math hwn o ganser yw’r ail fwyaf cyffredin yn y DU. SCC yw 20% o’r holl achosion o ganser y croen sy’n cael eu canfod. Mae astudiaethau’n dangos bod SCC yn effeithio’n fwy ar ddynion nag ar fenywod. Y prif ffactor achosegol yw bod yng ngolau’r haul, felly mae nifer yr achosion yn cynyddu wrth heneiddio. Mae cleifion sydd wedi bod yn agored i olau UVB a PUVA a ddefnyddir i drin psoriasis yn wynebu mwy o risg o gael SCC. Mae cleifion sydd â ffactorau genetig fel xeroderma pigmentosum, albinedd ac epidermolysis bullosa yn gallu datblygu briwiau mewn oedran iau na’r boblogaeth gefndir. Bydd y cleifion hynny sy’n cael therapi imiwnoataliol yn wynebu risg o gael SCC, yn enwedig y mathau mwyaf ffyrnig. Mae llid cronig fel wlserau ar y goes a llid sy’n ganlyniad i ysmygu cetyn (oherwydd niwed i’r gwefusau gan wres parhaus) yn cynyddu’r risg o gael SCC (4).

Melanoma yw’r trydydd mwyaf cyffredin o’r mathau o ganser y croen yn y DU. Mae’n achosi mwy o farwolaethau o ganser na’r holl fathau eraill o ganser y croen gyda’i gilydd. Bydd diagnosis o Felanoma yn arwain at golli mwy o flynyddoedd o fywyd yn gyffredinol na nifer o fathau o ganser sy’n fwy cyffredin. Mae hyn yn ganlyniad i’r cynnydd yn nifer yr achosion o felanoma ymysg oedolion iau. Yn y DU ar hyn o bryd mae mwy na 900 o oedolion o dan 35 oed yn cael diagnosis o felanoma bob blwyddyn. Cafwyd cynnydd yn nifer yr achosion o felanoma a ganfuwyd yn y grwpiau oedran canlynol: rhai 25-49 oed lle cafwyd cynnydd o 70%; rhai 50-59 oed lle cafwyd cynnydd o 97%; rhai 60-69 oed lle cafwyd cynnydd o 156%; rhai 70-79 oed lle cafwyd cynnydd o 219%; a rhai 80+ oed lle cafwyd cynnydd o 203%. (2)

Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yw Cofrestrfa Canser Cymru. Cofnododd WCISU 2,390 o achosion o felanoma yng Nghymru yn 2013/15. Yng Nghymru er 2001, mae cyfraddau melanoma wedi cynyddu. Melanoma yw’r seithfed mwyaf cyffredin o’r mathau o ganser sy’n digwydd yng Nghymru, o blith 34 o fathau o ganser a ganfuwyd yn 2013-15. At ei gilydd, ceir mwy o achosion o ganser yng Nghymru mewn ardaloedd difreintiedig. Fodd bynnag, mae cyfradd yr achosion o felanoma yn uwch mewn ardaloedd llai difreintiedig. (5) Nid oes dadansoddiad o ddata am NMSC yng Nghymru i wneud sylwadau amdano.

Mwy gwybodaeth am WCISU yw yma.

Yn y DU, credir bod tua 4 ym mhob 10 o’r holl achosion o ganser yn rhai y gellid eu hatal. (6)

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau