Beth yw Syndrom coesau aflonydd?

Claf yn rhwbio darn coch ar y rhan isaf o’r goes

Mae syndrom coesau aflonydd yn anhwylder synhwyraidd-weithredol cronig. Mae’n cael ei nodweddu gan ysfa i symud yr aelodau (coesau fel arfer) ynghyd â theimladau annifyr. Yn aml mae’n anodd i’r claf ddisgrifio’r teimladau yma yn gywir a gall disgrifiadau gynnwys:- 

  • Crafu 
  • Cosi
  • Llosgi
  • Ymgripiol (megis pryfed neu fwydod, nid ar y croen ond yn y meinwe dyfnach)
  • Teimladau pefriog
  • Curo

I hyd at 1/3 o bobl gall y teimladau yma fod yn boenus. Y man mwyaf cyffredin yw o dan y pengliniau a gall y symudiad leddfu’r teimlad yn rhannol neu yn llawn. Mae merched yn fwy tebygol o ddioddef na dynion (cymhareb o tua 2:1) ac mae yna hanes teuluol o goesau aflonydd mewn dros 50% o’r achosion. Mae’n effeithio ar rhwng 2-3% o oedolion o unrhyw oedran. Mae’n fwy cyffredin dros 40 oed er bod nifer o ddioddefwyr yn adrodd  eu bod wedi profi eu symptomau cyntaf cyn iddynt droi’n 20 oed.

Patrwm nodweddiadol syndrom coesau aflonydd yw dechreuad tawel gyda’r symptomau yn gwaethygu’n raddol (yn fwy nodweddiadol o ddechreuad cyn 45 oed). Gall symptomau ddatblygu’n gymharol gyflym mewn pobl eraill, ond gyda chynnydd amrywiol (yn fwy tebygol o ddechreuad ar ôl 45 oed). Gall cyfnodau o ryddhau ddigwydd, mewn un  astudiaeth mewn gofal sylfaenol, a gynhaliwyd dros gyfnod o 15 mlynedd, canfuwyd bod 8% o’r rhai a astudiwyd wedi profi rhyddhad llwyr a bod gan 15% arall symptomau oedd yn gwanhau. Mewn 41% roedd y symptomau yn aros yn sefydlog ond adroddodd 36% am symptomau oedd yn gwaethygu. Yn achos pobl â choesau aflonydd o ganlyniad i gyflwr tanategol neu feddyginiaeth (syndrom coesau aflonydd eilaidd), gall trin y cyflwr neu roi’r gorau i’r feddyginiaeth ddatrys y symptomau.

Gall coesau aflonydd arwain at gyflyrau eraill, a’r mwyaf cyffredin yw aflonyddu ar gwsg. Er nad yw’n un o’r meini prawf diagnostig hanfodol, yn aml dyma yw’r symptom “ychwanegol” amlwg. Gall y patrwm o aflonyddu ar gwsg amrywio o un claf i’r llall a hefyd gall newid dros amser yn yr unigolyn. Efallai byddant yn cael anhawster mynd i gysgu a hefyd gall y cyflwr eu deffro. Yn aml dyma’r rheswm pam fod unigolyn yn dewis cael cyngor am eu syndrom coesau aflonydd. Gall diffyg cwsg cronig arwain at flinder yn ystod y dydd a gall ymyrryd â’r gallu i weithredu’n briodol. Mae cyffredinedd gorbryder ac iselder yn uwch mewn pobl â choesau aflonydd na’r boblogaeth yn gyffredinol. Gellir cymharu mesuriadau ansawdd bywyd yn achos pobl â choesau aflonydd â chyflyrau meddygol cronig eraill.

Mae coesau aflonydd yn ddiagnosis seiliedig ar gymhlyg symptomau. Mae Grŵp Astudiaeth Syndrom Coesau Aflonydd wedi cynhyrchu canllawiau consensws ar gyfer diagnosio Coesau Aflonydd. Mae’r meini prawf yma yn adlewyrchu natur synhwyraidd-weithredol cymysg y cyflwr ac yn cydnabod bod yr effaith ar fywydau pobl yn amrywio o ysgafn i ddifrifol.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau