Crynodeb

  • Mae syndrom coesau aflonydd yn gyflwr cyffredin sydd yn effeithio ar 2-3% o’r boblogaeth o oedolion.
  • Mae yna set cydnabyddedig rhyngwladol o feini prawf diagnostig
  • Gall fod yn idiopathig neu‘n eilaidd i gyflyrau meddygol eraill neu gyffuriau penodol
  • Mae’n ymddangos bod yna ragdueddiad genetig mewn dros 50% o’r achosion
  • Dylai gwerthusiad cychwynnol o’r claf gynnwys hanes, archwiliad a gwirio serwm fferitin, a chynnal profion eraill fel bo’n briodol.
  • Tybir bod yna ddiffyg metabolaeth dopamin yn yr ymennydd
  • Dylid diystyru diffyg haearn ac os yw hynny’n bodoli dylid ymchwilio iddo a’i gywiro
  • Mae addysgu’r claf a mesurau hunangymorth yn elfennau pwysig o’r driniaeth
  • Mae offeryn hunan raddio symptomau wedi ei dilysu ar gael, a dylid ei ddefnyddio i asesu difrifoldeb wrth ystyried triniaeth gyda chyffuriau
  • Mae triniaeth â chyffuriau yn effeithiol, ond maent yn achosi risgiau sylweddol o sgil effeithiau
  • Efallai y bydd angen cymryd cyffuriau fel triniaeth am oes, er bod yna  gyfraddau rhyddhau a gwella symptomau arwyddocaol

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau