Y Meini Prawf Diagnostig

Mae’r Grŵp Astudiaeth Syndrom Coesau Aflonydd Rhyngwladol (IRLSSG)  yn 2014 wedi cynhyrchu meini prawf diagnostig consensws ar gyfer syndrom coesau aflonydd. Er mwyn rhoi diagnosis mae’n rhaid i unigolyn fodloni pob un o’r meini prawf diagnostig hanfodol.

1.  Ysfa i symud y coesau, fel arfer ond nid bob amser ynghyd â, neu y teimlir yr achosir gan, deimladau anghyfforddus ac annifyr yn y coesau.

Cafeatau

    • Weithiau mae’r ysfa i symud y coesau yn bodoli heb y teimladau anghyfforddus, ac weithiau effeithir ar y breichiau   neu rannau eraill o’r corff yn ogystal â’r coesau.
    • Yn achos plant, dylai’r plentyn ei hun ddisgrifio’r symptomau yma.

2.  Mae’r ysfa i symud y coesau ac unrhyw deimladau annifyr ategol yn dechrau neu’n gwaethygu yn ystod cyfnodau o orffwys neu anweithgarwch, megis gorwedd neu eistedd.

3.  Mae’r ysfa i symud y coesau ac unrhyw deimladau annifyr ategol yn cael eu gwella’n rhannol neu’n llwyr wrth symud, megis cerdded neu ymestyn, o leiaf yn ystod y gweithgaredd.

Cafeat

    • Pan fo’r symptomau yn ddifrifol iawn, efallai na ellir sylwi ar ryddhad o ganlyniad i weithgaredd ond mae’n rhaid bod hynny wedi bodoli’n flaenorol.

4.  Mae’r ysfa i symud y coesau ac unrhyw deimladau annifyr ategol wrth orffwys neu anweithgarwch ond yn digwydd neu maent yn waeth fin nos neu’n ystod y nos nag ydynt yn ystod y dydd.

Cafeat

    • Pan fo’r symptomau yn ddifrifol iawn, efallai na fydd y gwaethygu fin nos neu yn ystod y nos yn amlwg, ond mae’n rhaid bod hynny wedi bodoli’n flaenorol.

5.  Nid yw’r nodweddion uchod yn symptomau sydd yn elfennol i gyflwr meddygol neu ymddygiadol arall yn unig (e.e. myalgia, statis gwythiennol, oedema coesau, arthritis, crampiau coesau, aflonyddwch oherwydd ystum, tapio troed cyson.

Mae cwrs clinigol y symptom yn cael ei rannu ymhellach i:-

  • Cyson gronig - mae symptomau heb eu trin yn bodoli o leiaf ddwywaith yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn flaenorol
  • Ysbeidiol - symptomau heb eu trin yn bodoli yn llai na dwywaith yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn flaenorol, a phum gwaith o leiaf yn ystod oes.

Nid yw’r meini prawf cwrs clinigol yn gymwys i gleifion pediatrig neu goesau aflonydd a ysgogwyd gan gyflwr (e.e. beichiogrwydd neu o ganlyniad i gyffur).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau