Archwilio’r goes
Newidiadau yn rhan isaf y goes sydd yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel gwythiennol a diffyg gwythiennol cronig
- Coes chwyddedig - pantio o bosibl o ganlyniad i athreiddiedd apilari cynyddol.
- Lipodermatosclerosis (LDS) - yw'r term cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer cyflwyno clinigol gorbwysedd gwythiennol. Mae rhan ohono'n ardal o groen poenus tynn gyda meinwe isgroenol ffibrog caled ychydig uwchben y ffêr. Mae hyn oherwydd ymdreiddiad ffibrin a llid ac mae'n arwain at siâp y goes yn debyg i botel siampên wedi ei gwrthdroi.
Yn ogystal, mae'r canlynol i'w cael yn LDS, fodd bynnag, gall y claf gyflwyno gydag un neu fwy o arwyddion LDS
-
Hyperpigmentation. Mae hwn yn afliwiad brown cochlyd anadferadwy ar y croen, oherwydd dyddodiad haemosiderin yn y croen.
- Fflêr ar y ffêr. Gwythiennau ymledol arwynebol o amgylch agweddau canolog neu ochrol y malleolws; oherwydd gorbwysedd gwythiennol.