Meddygaeth Ffordd o Fyw

Mae Datblygiad proffesiynol parhaus(DPP) ar Gais yn cynnig yr hyblygrwydd i chi wylio ein holl ddigwyddiadau DPP yn fyw, pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch!

Cyflwyniad i Feddygaeth Ffordd o Fyw

Trosolwg: Mae clefydau cronig gan gynnwys clefydau cardiofasgwlaidd, canserau, diabetes a chlefydau anadlol cronig yn tueddu i fod yn hirhoedlog ac yn sgîl-gynhyrchion ffactorau cymhleth o ran ffordd o fyw.
Nid yw’r dulliau gofal iechyd a meddygaeth presennol yn cynnig atebion digonol i'r problemau a wynebir. Gall meddygaeth ffordd o fyw fod yn rhan o'r ateb wrth fynd i'r afael â meysydd i wella iechyd a lles ein  poblogaeth. Ymunwch â ni ar gyfer y weminar gyntaf hon mewn cyfres lle rydym yn eich tywys drwy’r hanfodion ac yn eich cyflwyno i'r cysyniad o feddygaeth ffordd o fyw.

Canlyniadau dysgu: Ar ôl mynychu'r digwyddiad hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Disgrifio beth yw meddygaeth ffordd o fyw
  • Diffinio conglfeini meddygaeth ffordd o fyw
  • Cydnabod pwysigrwydd dull amlddisgyblaethol o ymdrin â meddygaeth ffordd o fyw
  • Gwybod pa adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo cleifion a gweithwyr gofal
    iechyd proffesiynol
   

Siaradwr: Dr Kate Holliman Meddyg Teulu ac Ymarferydd Meddygaeth Ffordd o Fyw

Hwylusir gan: Dr Mike Barker Arweinydd DPP Meddygon Teulu a Catrin Windsor-Jones, Arweinydd Rhanbarthol Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Canolbarth a Gorllewin Cymru – Fferylliaeth

Recorded:  Mawrth 2023  Duration: 52 Munud

 

Pileri Meddygaeth Ffordd o Fyw - Cwsg

Trosolwg: Gall meddygaeth ffordd o fyw fod yn rhan o'r ateb wrth fynd i'r afael â meysydd i wella iechyd a lles ein poblogaeth. Yn ddiweddar fe wnaethom cyflwyniad i Feddygaeth Ffordd o Fyw.

Yn dilyn hwn, rydym yn awr yn archwilio mwy o fanylder yn y prif bileri o feddygaeth ffordd o fyw.

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon ble fyddwn yn edrych ar Cwsg.

Deilliannau dysgu: Ar ôl mynychu'r digwyddiad hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Disgrifio pan fod cwsg yn biler pwysig o feddygaeth ffordd o fyw
  • Diffinio arferion cwsg da
  • Cydnabod pwysigrwydd cwsg o ansawdd da
  • Gwybod pa adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

 

Siaradwr: Dr Kate Holliman Meddyg Teulu ac Ymarferydd Meddygaeth Ffordd o Fyw

Hwylusir gan: Dr Mike Barker Arweinydd DPP Meddygon Teulu a Catrin Windsor-Jones, Arweinydd Rhanbarthol Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Canolbarth a Gorllewin Cymru – Fferylliaeth

Recorded:  Mehefin 2023  Duration: 54 Munud

 

Pileri Meddygaeth Ffordd o Fyw - Gweithgaredd Corfforo

Trosolwg: Gall meddygaeth ffordd o fyw fod yn rhan o'r ateb wrth fynd i'r afael â meysydd i wella iechyd a
lles ein poblogaeth. Yn ddiweddar fe wnaethom cyflwyniad i Feddygaeth Ffordd o Fyw.

Yn dilyn hwn, rydym yn awr yn archwilio mwy o fanylder yn y prif bileri o feddygaeth ffordd o fyw.

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon ble fyddwn yn edrych ar Gweithgaredd Corfforo.

Deilliannau dysgu: Ar ôl mynychu'r digwyddiad hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Disgrifio pan fod gweithgaredd corfforol yn biler pwysig o feddygaeth ffordd o fyw
  • Diffinio gweithgaredd corfforol
  • Cydnabod pwysigrwydd gweithgaredd corfforol
  • Gwybod pa adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

 

Siaradwr: Dr Neeraj Sharma Meddyg Teulu a Meddyg Meddygaeth Chwaraeon

Hwylusir gan: Dr Mike Barker Arweinydd DPP Meddygon Teulu a Catrin Windsor-Jones, Arweinydd Rhanbarthol Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Canolbarth a Gorllewin Cymru – Fferylliaeth

Recorded:  Mehefin 2023  Duration: 58 Munud

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen isod, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud I’w gwblhau.

Dolen Adborth

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau