Canser y fron etifeddol

Module created Mawrth 2014 - Reviewed Chwefror 2018
Rheoli’r risg yng Nghymru

Mae’r adnodd yma yn cynnwys gwybodaeth am ragdueddiad etifeddol mewn perthynas â chanser y fron. Mae wedi ei anelu’n benodol at Ofal Sylfaenol yng Nghymru ble mae ffurfwedd y gwasanaeth yn wahanol i wledydd eraill y DU.  

Cynhyrchwyd yr adnodd yma o ganlyniad i gydweithredu rhwng Deoniaeth Cymru (nawr AaGIC) a Gwasanaeth Geneteg Canser Cymru.

Mae’r wybodaeth yn seiliedig ar ganllawiau NICE Canser y fron etifeddol: dosbarthiad a gofal i bobl sydd yn wynebu risg o ganser y fron, a rheoli canser y fron a risgiau cysylltiedig mewn pobl sydd â hanes teuluol o ganser y fron (CG164 Mehefin 2013).

Mae BReastCAncer 1 a BReastCAncer 2 (BRCA1 a BRCA2) yn enynnau sydd yn godau ar gyfer proteinau atal tiwmor. Weithiau fe’i gelwir yn “enynnau gofalu” a gall y proteinau maent yn eu cynhyrchu atgyweirio DNA a ddifrodwyd, ac oherwydd hynny mae ganddynt rôl o ran sicrhau sefydlogrwydd genetig celloedd. Mae mwtaniadau niweidiol yn y genynnau BRCA yn ymyrryd â’r swyddogaeth warchodol hon, sydd yn golygu bod yr unigolyn yn wynebu mwy o risg o ddatblygu canser y fron a chanserau eraill.

Mae BRCA1 a BRCA2 yn cael eu hetifeddu mewn modd drechol awtonomaidd.

Gall mwtaniadau genynnau eraill gynyddu’r risg o ganser y fron, ond maent yn brin ac nid yw’n ymddangos eu bod yn cynyddu’r risg gymaint â mwtaniadau BRCA.

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau