Sgiliau arfarnu uwch

Module created Gorffennaf 2016

Mae’r adnodd hyfforddi hwn wedi’i ddatblygu i helpu arfarnwyr meddygol i fyfyrio ar eu sgiliau presennol, fel cyfeiriad at arferion gorau ac i annog datblygiad yn y rôl lle bydd angen. Nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer hyfforddiant cychwynnol mewn arfarnu, yn wir ni fyddai peth o’r deunydd sydd wedi’i gynnwys yn briodol i arfarnwyr newydd.

Mae’r adnodd ar ffurf modiwlau a gall unigolion gymryd yr hyn maent yn ei ddewis ohono; gall yr hunanasesiad helpu i’ch arwain i’r meysydd yr hoffech weithio arnynt. Mae’r hunanasesiad wedi’i rannu’n bum adran ac mi gymer rhwng 1 a 2 awr i’w gwblhau’n llawn. Gallwch gwblhau rhan ohono, ei gadw a dychwelyd ato’n ddiweddarach.

Cafodd yr adnodd hwn ei baratoi gan yr Uned Cymorth Ail-ddilysu, AaGIC/HEIW.

Yr Hunanasesiad

Awgrymir eich bod yn cwblhau’r hunanasesiad hwn i ganfod meysydd datblygiadol. Ar ôl i chi ei gwblhau gallwch ei gadw fel ffeil a’i argraffu a’i gadw fel cofnod ac i fyfyrio ar gyflawniadau datblygiadol. Mae gan yr Uned fynediad at eich atebion dienw a gall ddefnyddio data dienw wedi’i gyfuno i ddibenion dysgu, ymchwil a gwerthuso. Noder na ofynnir i chi roi eich enw nac adnabod eich hun mewn unrhyw ffordd.

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau