Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru 2020 – 2021

Module created Ebrill 2020 - Reviewed Hydref 2021
Mae Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol AWMSG wedi cael eu diweddaru ar gyfer 2022-2023. Os gwelwch yn dda, adolygwch y dangosyddion presennol cyn parhau gyda’r modiwl hwn. Gallwch gael mynediad at y dangosyddion diweddaraf a’r wybodaeth gefnogol yma: Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2022-2023.

Mae’r modiwl hwn yn rhoi trosolwg ar Ddangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG) ar gyfer 2021 – 2022 a elwir o hyn ymlaen yn NPIs. Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn darparu cymorth ysgrifenyddiaeth, fferyllol a chlinigol proffesiynol i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru a’i is-grwpiau.

Pwrpas y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol (NPIs) yw tynnu sylw at flaenoriaethau therapiwtig i GIG Cymru a chymharu’r ffyrdd y mae gwahanol bresgripsiynwyr a sefydliadau’n defnyddio meddyginiaethau penodol neu grwpiau o feddyginiaethau. Ers cymeradwyo’r set gyntaf o NPIs gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG) yn 2003, mae’r NPIs wedi datblygu i gynnwys gofal eilaidd yn ogystal â gofal sylfaenol, ac maent yn cwmpasu ansawdd, diogelwch, a rhagnodi effeithlon.

Ar gyfer 2020 - 2021 adnewyddwyd y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol (NIP) gan ganolbwyntio ar 3 maes blaenoriaeth a gefnogwyd gan feysydd diogelwch ac effeithlonrwydd, fel y nodwyd yn y diagram. Parhaodd y gwaith adnewyddu hwn gydag athroniaeth gofal iechyd darbodus gan alluogi ansawdd a gwerth uwch drwy leihau gwastraff a niwed amrywiadau. Oherwydd y pwysau llwyth gwaith ledled GIG Cymru yn ystod y pandemig COVID-19, gwnaed y penderfyniad i ddwyn y NPIs ymlaen ar gyfer 2020–2021 i 2021–2022.

Darlunyn dangos y tri maes blaenoriaeth ar parthau ategol o Ddangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2021 2022 

Datblygwyd gan Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG)

  • Mai 2019: Grŵp Gorchwyl a Gorffen AWPAG ar NPIs yn adolygu ac yn datblygu’r NPIs.
  • Mehefin 2019: Trafod argymhellion ar gyfer NPIs 2019–2020 yn AWPAG.
  • Medi 2019: Trafod papur ymgynghori drafft yn AWPAG.
  • Hydref 2019: Ymgynghori â diwydiant a rhanddeiliaid.
  • Rhagfyr 2019: Cyflwyno’r fersiwn derfynol i AWPAG.
  • Chwefror 2020: Cymeradwyo’r ddogfen derfynol gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG).


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau