Wlseriad gwythiennol ar y goes

Module created Ebrill 2017

Wlseriad gwythiennol yw’r math mwyaf cyffredin o wlseriad ar y goes ac mae’n achosi problem glinigol sylweddol. Mae briw gwythiennol ar y goes yn friw croen agored sydd fel arfer yn digwydd ar ochr ganolog ac ochrol y goes isaf rhwng y ffêr a'r pen-glin o ganlyniad i annigonolrwydd gwythiennol cronig (CVI).

Mae cyffredinrwydd wlserau gwythiennol ar y goes (VLUau) yn cynyddu, ac yn cyd-ddigwydd â phoblogaeth sydd yn heneiddio. Mae VLU yn gyflwr mynych cyffredin ac amcangyfrifir bod ei gyffredinrwydd yn rhwng 0.1% a 0.3% yn y DU. Bydd 1% or boblogaeth yn dioddef wlseriad ar y goes ar ryw adeg yn eu bywydau, a bydd hynny yn dyblu i 2% o bobl dros 80 oed. Mae effaith wlser gwythiennol ar y goes yn achosi heriau sylweddol i gleifion a’r system gofal iechyd. Mae cleifion yn adrodd y gall VLU effeithio’n negyddol ar bob agwedd o fywyd bob dydd  a gall achosi iselder, gorbryder ac arwahanrwydd cymdeithasol. Gall archwys sydd yn diferu, poen, arogl, symudedd cyfyngedig a tharfu ar gwsg fod yn arbennig o drallodus i’r claf. (Franks et al 2016).

At hynny, mae Wlseri Gwythiennol yn y Goes (VLU) yn achosi draen economaidd ar y system gofal iechyd. Mae’r banc data ‘Secure Anonymised Information Linkage’ (https://saildatabank.com a gyrchwyd ar 19eg Hydref 2020) yn cynnwys gwybodaeth o 75% o Feddygfeydd o fewn Cymru. Archwiliwyd y data am friwiau ar goesau dros gyfnod o 10 mlynedd (2007 - 2017) ac roedd yn cynnwys ymweliadau meddygon teulu a nyrsys ardal ynghyd â gwybodaeth am gostau trin y briwiau. Yr elfen gost ddrutaf oedd ymweliadau nyrsys a oedd yn £67.8 miliwn, ac os cânt eu codi i'r DU mae'r costau'n codi i £1.98 miliwn. Amcangyfrifwyd bod costau gorchuddio a rhwymau cywasgu yng Nghymru yn £828 790. Yn gyffredinol, mae costau blynyddol trin briwiau ar y coesau yn y DU dros £2 biliwn (Phillips et al 2020). Gyda chyfradd mynychder amcangyfrifiedig o 26%-69% a phoblogaeth sydd yn heneiddio’n gynyddol, gall yr holl ffigyrau yma barhau i godi (Franks et al 2016).

Wlserau gwythiennol yn y goes yw’r math mwyaf cyffredin o friw ar goesau (tua 50% o’r holl wlserau) ac maent yn deillio o nam ar ffwythiant y gwythiennau a elwir yn ddiffyg gwythiennol cronig.

O ystyried poblogaeth sydd yn heneiddio’n gynyddol a galwadau ar wasanaethau, mae mwy o gleifion yn derbyn gofal mewn sefydliadau gofal sylfaenol. Nod y canllawiau yma yw helpu i feddygon teulu a nyrsys practis diagnosio a rheoli wlserau gwythiennol ar y goes gan gyfeirio at ganllawiau arferion gorau. Mae llawer o’r adnodd yma yn seiliedig ar ganllawiau datganiad diweddaraf y Gymdeithas Rheoli Briwiau Ewropeaidd (EWMA), a gyhoeddwyd yn 2016, sydd yn amlygu arferion gorau cyfredol.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau