Cur pen mewn Meddygaeth Teulu

Module created Gorffennaf 2018

Mae cur pen yn gyflwyniad cyffredin mewn Practisau Cyffredinol. Yn aml canfyddir bod asesu a rheoli cur pen yn arwain at ymgynghoriad anodd gyda’r claf. 

Cyhoeddwyd nifer o ganllawiau ar y pwnc, ac mae’r modiwl yma sydd wedi ei anelu at Feddygon Teulu yn tynnu ar nifer o ganllawiau’r DU fel ffynonellau. 

Yn gyffredinol mae’r canllawiau yn gwahaniaethu rhwng cyflwyniad mewn plant o dan 6 oed, plant o dan 12 oed, ac yn cyfuno’r glasoed (dros 12 oed) gydag oedolion. 

Mae cyffredinolrwydd oed cur pen yn 95% neu fwy, ar rhan fwyaf yn gur pen “math tensiwn” hunangyfyngol anfalaen. Amcangyfrifir bod  meigryn yn effeithio ar 14-16% o boblogaeth y DU. Mae cur pen mwy difrifol ac achosion bygwth bywyd sydd yn achosi cur pen yn brin, ond mae’n eithriadol bwysig diagnosio hynny yn gynnar.  

Mae’r adnodd yma yn addas ar gyfer ymarferwyr Gofal Sylfaenol, ac fe’i ysgrifennwyd gan Dr Christopher Price, Pennaeth yr Uned Cymorth Ailddilysu, HEIW. 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau