Popeth am Archwilio

Module created Chwefror 2009 - Reviewed Chwefror 2019

Ar gyfer pwy mae’r adnodd yma?

Dyluniwyd yr adnodd yma yn bennaf ar gyfer meddygon teulu sydd yn dymuno cynnal archwiliad clinigol. Mae’n addas ar gyfer meddygon teulu sydd y ymarfer yn y rhan fwyaf o amgylcheddau clinigol fel partner, meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu sesiynol neu sydd yn gweithio dan amodau yn ystod oriau a thu allan i oriau.

 

O ble tardd yr adnodd yma?

Mae’r Adnodd yma yn ganlyniad i gydweithredu rhwng y Gwasanaeth Ansawdd a Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol Cymru) ac adran addysg meddygol teulu ôl-radd Prifysgol Caerdydd.

 

Beth sydd yn gynwysedig yn yr adnodd yma?

Mae’r adnodd yma yn cynnwys testun hyfforddi manwl sydd yn gysylltiedig â’r broses archwilio, ar gyfer y rhai sydd yn gyfarwydd â’r broses archwilio mae yna grynodeb byr o’r broses a dolenni i’r tesun hyfforddi. Mae’n cynnwys cyngor ymarferol ar archwilio, awgrymiadau ar gyfer prosiectau archwilio, dolenni i’r offerynnau sydd eu hangen ar gyfer archwilio ac enghreifftiau o archwiliadau personol y gellir eu defnyddio gan unigolyn, boed hynny mewn tîm practis neu fel meddyg teulu sesiynol.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau