Problemau Iechyd Cerddorion

Module created Gorffennaf 2020

Cyflwyniad

Mae'r problemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â cherddorion (amatur a phroffesiynol) yn niferus ac yn amrywiol, ac maent yn tueddu i fod yn elfen o feddygaeth sy’n cael ei diystyru. Amcangyfrifir bod gan 82% o gerddorion broblem feddygol sy'n gysylltiedig â'u gwaith, a bod gan 76% ohonynt gyflwr sy'n ddigon difrifol i effeithio ar eu perfformiad. Mae astudiaeth wedi dangos bod gan 64-76% o gerddorion cerddorfa anafiadau straen ailadroddus sylweddol1

Mae'r maes hwn yn debyg iawn i feddygaeth chwaraeon. Serch hynny, mae’n cael llawer llai o sylw, er bod y cyflyrau sy'n effeithio ar gerddorion yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol, gan ddinistrio gyrfaoedd a blynyddoedd o waith caled. Yn ôl nifer o gerddorion â phroblemau meddygol, pan fyddant yn chwilio am gymorth ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar eu perfformiad, mae rhai ymarferwyr yn methu deall eu problemau neu'n eu diystyru - sy'n peri rhwystredigaeth iddynt. Er enghraifft, os oes gan gitarydd proffesiynol broblem gyda nerf y penelin, neu os oes gan bianydd arthritis y llaw, gall fod yn ergyd angheuol i yrfa'r unigolyn.

Mae hyd yn oed cerddorion amatur wedi treulio oriau lawer yn dysgu chwarae eu hofferynnau, ac mae cerddoriaeth yn rhan annatod o'u bywydau. Rhaid cofio bod llawer o gerddorion proffesiynol wedi dewis yr yrfa hon achos bod cerddoriaeth mor bwysig iddynt ac na allant ystyried gwneud unrhyw beth arall. Mae'n anodd iawn dechrau gyrfa fel cerddor, ac mae'r hyfforddiant yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser. Mae cerddorion yn wynebu cystadleuaeth ddwys am y cyfleoedd sy'n agos y drws i yrfa.

Mae cerddoriaeth yn faes anodd a chystadleuol iawn i wneud bywoliaeth. Yn aml, mae artistiaid yn methu cyfaddef bod ganddynt broblemau iechyd rhag ofn eu bod yn colli gwaith, ac maent yn tueddu i 'fwrw ymlaen' pan fyddant yn sâl, a hynny ar draul eu hiechyd. Mae cerddorion cerddorfa proffesiynol yn credu ei bod yn annoeth iddynt siarad am gyflyrau meddygol fel problemau cyhyrysgerbydol ac ofn llwyfan. Maent yn dweud y byddent yn 'wallgof i siarad am anableddau' gan fod cynifer o berfformwyr iach ar gael.

Mae cerddoriaeth wedi bod yn ffordd ansicr o wneud bywoliaeth erioed, ond mae perfformwyr wedi wynebu problemau digynsail yn ddiweddar yn sgil Covid-19. Mae gwaith y rhan fwyaf o berfformwyr wedi'i ganslo ar gyfer y dyfodol rhagweladwy, ac mae llawer ohonynt yn weithwyr hunangyflogedig.

Mae nifer cynyddol o glinigau ar gyfer y celfyddydau perfformio wedi ymddangos dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn dechrau mynd i'r afael â’r maes meddygaeth hwn sydd wedi'i esgeuluso hyd yma. Mae'r modiwl hwn wedi'i ysgrifennu er mwyn tynnu sylw at y problemau meddygol sy'n gysylltiedig â cherddorion a rhestru’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer ymarferwyr gofal sylfaenol sy'n mynd ati i'w trin.

Ysgrifennwyd y modiwl hwn gan Dr Sara Lambert, Meddyg Teulu ac Arfarnwr Meddygon Teulu.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau