Anafiadau acíwt i’r arennau

Module created Mehefin 2014

Ers 2007 y term a ffafrir ar gyfer newidiadau acíwt mewn ffwythiant yr arennau, pa mor ddifrifol bynnag fo hynny, fu anafiadau acíwt i’r arennau (AKI) (1).  Nid yw anaf acíwt i’r arennau yn glefyd ‘newydd’.  Mae’r term yn cofleidio’r sbectrwm o glefydau oedd yn arfer cael eu cynnwys o dan necrosis tiwbaidd acíwt (ATN) a methiant arennol acíwt (ARF).  Ond, mae'r newid yma yn gymaint mwy na semanteg yn unig; mae’n cynnwys hyd yn oed mân newidiadau mewn ffwythiant yr arennau, a thrwy hynny yn pwysleisio eu pwysigrwydd.  Efallai na fydd y newidiadau yma yn arwain at ganlyniadau uniongyrchol eu hunain, ond byddant yn clustnodi rhywun sydd yn wynebu risg o newidiadau mwy arwyddocaol mewn ffwythiant yr arennau heb reolaeth briodol: maent yn ‘Fflag Goch’.  Mae ymyrraeth gynnar yn atal cynnydd ac yn adfer ffwythiant arennau arferol mewn nifer o achosion.  Hefyd, mae marwoldeb yn cynyddu  pan gyrhaeddir cam cynyddol AKI (2), felly mae ymyrraeth gynnar yn gwella deilliannau yn sylweddol.   Felly mae deall sut mae diagnosio AKI ac ymyrryd yn gynnar yn greiddiol i wella deilliannau mewn perthynas ag AKI.

Mae AKI yn broses glefydol sydd yn fwyaf aml yn gymhlethdod mewn clefyd y tu allan i’r arennau, ac yn amlach na pheidio mae’n dechrau cyn bod y claf yn cael ei dderbyn i ysbyty.  Mae’n bwysig nodi bod hynny yn ymestyn y rhwyd o feddygon y mae AKI yn berthnasol iddynt, oherwydd nid yw AKI bellach yn gyfyngedig i ddwysegyddion a neffrolegwyr.  Mae AKI yn cwmpasu sbectrwm eang o glefydau, sydd i ddechrau yn amlygu ei hun fel cynnydd bychan mewn creatinin a gyflwynir mewn gofal sylfaenol ac i feddygon a llawfeddygon anarennol gofal eilaidd.  Awgrymwyd y gellid osgoi hyd at 30% o AKI wrth adnabod y claf sydd yn ‘wynebu risg’, diagnosis ac ymyrraeth gynnar (3 ,4)  Mae ròl hanfodol y meddyg teulu o ran canfod ac atal AKI yn gynnar yn amlwg ac mae hynny wedi cael ei bwysleisio yn ddiweddar (5).

Pwynt Dysgu
Mae newidiadau bychan mewn ffwythiant arennau yn ‘Fflag Goch’ i gleifion sydd yn wynebu risg o newidiadau sylweddol mewn ffwythiant arennau.

Mae’r modiwl yma wedi cael ei ysgrifennu yn benodol ar gyfer gweithwyr Gofal Sylfaenol ond mae ynddo wybodaeth allai fod yn ddefnyddiol i bob aelod staff clinigol sydd yn ymwneud â gofalu am gleifion sydd yn wynebu risg sydd â alwch acíwt.

Awdur - Dr. Richard Smith, Neffrolegydd


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau