Camddefnyddio Sylweddau a Gwendidau Eraill

Mae Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar Gais yn cynnig yr hyblygrwydd i chi wylio ein holl ddigwyddiadau DPP yn fyw, pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch!

 

Digartrefedd ac Iechyd

Trosolwg: Mae digartrefedd ledled Cymru yn cynyddu'n gyflym. Gall pobl sy'n profi digartrefedd ddioddef cyfuniad cymhleth o salwch corfforol, afiechyd meddwl ac anhwylderau defnyddio sylweddau sydd, gyda'i gilydd, yn creu cymhlethdod o angen iechyd a all fod yn her i weithwyr proffesiynol. Mae gofal tosturiol ac effeithiol yn hanfodol. Ymunwch â'r gweminar hwn i ddysgu am sut y gallwch wneud gwahaniaeth i'r cleifion bregus hyn. 

Canlyniadau dysgu: Ar ôl dod i'r digwyddiad hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Crynhoi'r rhesymau y gallai pobl fynd yn ddigartref
  • Nodi'r rhwystrau a allai fodoli wrth gael mynediad at ofal iechyd 
  • Disgrifio effeithiau digartrefedd ar iechyd
  • Gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd ymgynghoriad â chlaf sy'n profi digartrefedd

 

Siaradwr: Janet Keauffling, Specialist Nurse, Oedolion Digartref a Bregus, BIPBA.

Hwylusir gan: Dr Sarah Tamplin, Arweinydd DPP Meddygon Teulu .

Wedi recordio: Mehefin 2023  Hyd: 40 munud

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen isod, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.

Dolen Adborth

 


Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau