Cardioleg
Mae Datblygiad proffesiynol parhaus(DPP) ar Gais yn cynnig yr hyblygrwydd i chi wylio ein holl ddigwyddiadau DPP yn fyw, pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch!
Arrhythmia |
Trosolwg: Yn y weminar hon byddwn yn archwilio i fathau cyffredin o arhythmia:
Canlyniadau dysgu: Rydym yn edrych ar symptomau cleifion, yn ystyried sut i archwilio iddynt gan dalu sylw i rai a all fod yn beryglus. |
|
Siaradwr: Dr Eiry Edmunds, Cardiolegwr Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Wedi'i recordio: Mawrth 2022 Hyd: 51 Munud |
Ffibriliad Atrïaidd |
Trosolwg: Ffibriliad Atrïaidd yw'r mwyaf cyffredin o'r holl arrhythmias cardiaidd parhaus ac mae'n effeithio ar hyd at 1% o'r boblogaeth oedolion sy'n codi i bron i 10% o'r rhai dros 75 oed. Mae'n un o brif achosion afiachusrwydd a marwolaethau yn bennaf drwy gynyddu’r risg o strôc fawr y gellir ei hosgoi i raddau helaeth. Yn ogystal â chynyddu'r risg o strôc hyd at bum gwaith, mae Ffibriliad Atrïaidd hefyd yn cynyddu'r risg o fethiant y galon a dementia fasgwlaidd a gall gael effaith negyddol iawn ar ansawdd bywyd a hyd oes. Bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar y canllawiau NICE diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021 ar ganfod, rheoli a rhannu gofal cleifion gyda Ffibriliad Atrïaidd sy'n cynnig cynllun gofal personol i'r rhai yr effeithir arnynt. Er y bydd y rhan fwyaf o gleifion â Ffibriliad Atrïaidd yn cael eu gweld a’u rheoli o fewn gofal sylfaenol, bydd y weminar yn egluro pryd a pham i gyfeirio rhai cleifion at wasanaethau arbenigol o fewn gofal eilaidd a thrydyddol a'r hyn y gellir ei gynnig. Canlyniadau dysgu: Bydd cyfranogwyr yn teimlo mwy o hyder a chymhwysedd wrth ddelio â Ffibriliad Atrïaidd a bydd sawl astudiaeth achos yn cael eu cynnwys. |
|
Siaradwr: Dr Lena Izzat, Cardiolegwr Ymgynghorol ac Arweinydd Ffibriliad Atrïaidd, Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Wedi'i recordio: Ionawr 2022 Hyd: 58 Munud
|
ECGs |
Trosolwg: Fyddwch chi’n edrych ar ECG weithiau ac yn meddwl: ‘Na, sori, does gen i ddim clem’? Canlyniadau dysgu: Mae ECG yn aml yn codi arswyd ar bobl felly rydym yn gobeithio y bydd y weminar hon yn ein galluogi i ddeall hanfodion ECG yn well a thawelu’r sïon bod ECG yn anodd i’w deall. Byddwn yn adolygu ECG arferol fel bod modd adnabod nodweddion annormal yn hawdd, a'u deall. |
Siaradwr: Dr Eiry Edmunds, Cardiolegwr Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Wedi'i recordio: Mawrth 2022 Hyd: 47 Munud |
Atgyfeiriadau i Ofal Eilaidd gan Feddygon Teulu |
Trosolwg: Yr hyn y mae Cardiolegydd yn dymuno ei weld mewn Atgyfeiriad Cardioleg. Ar ôl naw mis o’m secondiad yn arwain y prosiect i adfer Cardioleg yn sgil COVID o fewn Hywel Dda, nid wyf erioed wedi bod mewn man mor freintiedig. Mae wedi fy ngalluogi i ddeall ein cryfderau a’n gwendidau wrth ddarparu’r gwasanaeth cardioleg gorau posibl i gleifion allanol. Nid yw’n syndod bod y pandemig COVID presennol wedi gosod her enfawr i’r gwasanaethau arferol ar gyfer cleifion cardioleg allanol. Fodd bynnag, mae hefyd wedi rhoi cyfle gwych i ni ailfeddwl ac i ailgynllunio'r hyn sy'n helpu ein cleifion i wneud y gorau o'r ymgynghoriadau. Rydym wedi cael cyfle i adolygu'r hyn roedd wedi gweithio’n dda a'r hyn roedd angen ei wella. Yn ogystal, rydym wedi dysgu sut i wneud y gorau o'r gwasanaethau cardiaidd amrywiol yn y gymuned ac mewn ysbytai. Mae atgyfeiriadau gofal sylfaenol o ansawdd da yn hynod bwysig i ganiatáu brysbennu a blaenoriaethu diogel yn enwedig pan fo adnoddau yn gyfyngedig i gleifion allanol. Mae hefyd yn hynod bwysig pan fydd y rhan fwyaf o ymgynghoriadau cychwynnol yn cael eu cynnal mewn lleoliad rhithwir. Gall atgyfeiriad cryno o’r pwyntiau pwysicaf yn yr hanes ynghyd ag archwiliad cardiaidd â phrofion sylfaenol ond pwysig wneud byd o wahaniaeth. Gall ganiatáu asesiadau prydlon yn y clinig cardioleg arbenigol gorau mewn modd amserol. Canlyniadau dysgu: Byddwn yn rhoi amlinelliad o’r cyflwyniadau cardiaidd cyffredin ac yn trafod y wybodaeth ddelfrydol sydd ei hangen o'ch atgyfeiriadau er mwyn gwneud y daith yn un mor ddi-dor a buddiol â phosibl i'n |
|
Siaradwr: Dr Lena Izzat, Cardiolegwr Ymgynghorol ac Arweinydd Ffibriliad Atrïaidd. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Wedi'i recordio: Mehefin 2022 Hyd: 58 Munud |
Methiant y Galon |
Trosolwg: Mae methiant y galon yn effeithio ar bron i filiwn o bobl yn y DU ac mae'r ffordd i gael diagnosis yn aml yn hir ac yn gymhleth. Mae'r canlyniad yn gost sylweddol i'r GIG. Mae methiant y galon yn cyfrif am tua 2% o gyfanswm cyllideb y GIG a 5% o dderbyniadau nas cynlluniwyd y flwyddyn. Mae oedi wrth gael diagnosis yn gyffredin ond gellir ei osgoi. Canlyniadau dysgu: Ein nod yw ymdrin â Methiant y Galon (gyda llai o ffracsiwn tynnu, yn bennaf) a chanolbwyntio ar rai o'r datblygiadau diweddaraf mewn therapi meddygol a meithrin ffordd newydd o feddwl am reoli Methiant y Galon gan ganolbwyntio ar ansawdd bywyd y claf a phrognosis hirdymor. |
|
Siaradwr: Dr Lena Izzat, Cardiolegwr Ymgynghorol ac Arweinydd Ffibriliad Atrïaidd, Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Wedi'i recordio: Chwefror 2022 Hyd: 79 Munud |
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen isod, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.