Ymarfer myfyriol

Module created Mehefin 2014 - Reviewed Mehefin 2018

Pan fyddwch yn oedi i edrych yn y drych un bore - ac edrych o ddifri - a dwi’n golygu oedi, archwilio’n fanwl y gwallt gwyn, y crychau’n y croen, yr aeliau rhychog, ac yn cael ein dychryn gan yr hyn a welwn neu’n poeni am hynny, efallai y byddwn yn ystyried ein hedrychiad o ddifri a beth ydym yn bwriadu gwneud am y peth. Mae proses ‘Ymarfer Myfyriol’ yn eithaf cyffelyb mewn rhai ffyrdd. 

“Mae Ymarfer Meddygol da yn golygu bod raid i chi fyfyrio ar eich ymarfer ac ar p’un a ydych yn gweithio’n unol â’r safonau perthnasol.”

Mae myfyrio yn fwy na ffordd o dysgu i glinigwyr neu academyddion meddygol, ac mae nifer ohonom yn cael mewnwelediadau i agweddau pwysig o’n bywydau drwy’r broses o fyfyrio.

Ond, mae penawdau  yn y wasg feddygol yn tystio i’r problemau allai godi pan fo meddygon yn methu ag ymgorffori ymarfer myfyriol i’w datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae pwysigrwydd hynny o ran cynnal perfformiad yn cael ei gydnabod gan gyrff proffesiynol (Y Cyngor Meddygol Cyffredinol1, Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2).

Cydnabuwyd ers amser bod meddygon cymwys yn myfyrio’n naturiol ar brofiadau clinigol ac yn cyfuno gwersi a ddysgwyd o ymarfer a gwybodaeth ddamcaniaethol er mwyn mireinio eu gwaith yn barhaus. Mewn gwirionedd gellid dweud mai myfyrio yw elfen hanfodol dysgu drwy brofiad. Ond, nid yw’n briodol ystyried mai dim ond ymateb i ddigwyddiadau dysgu oportiwnistaidd  yn unig yw ymarfer myfyriol, a byddir yn trafod yn nes ymlaen sut y gellir hefyd ei gymhwyso i ddigwyddiadau dysgu strwythuredig neu gynlluniedig.

 Yn 2012 manylodd GMC ar y gofynion ar gyfer ail-ddilysu’n llwyddiannus mewn cylch bob 5 mlynedd, a sut y bydd y dystiolaeth ar gyfer hynny yn cael ei glustnodi yn ystod y broses werthuso flynyddol. Wrth wneud hynny pwysleisiodd y GMC yr angen nid yn unig i gasglu gwybodaeth mewn portffolio ond hefyd i ddarparu tystiolaeth bod myfyrio wedi digwydd ac y bydd hynny yn ei dro yn gwella dealltwriaeth ac yn gweithredu fel cyfrwng i newid. Ond, mae adborth o gyfarfodydd wedi clustnodi’n barhaus craidd o feddygon sydd yn ystyried nad ydynt yn gallu myfyrio; mae un dyfyniad yn cyfeirio at feddyg sydd ‘heb asgwrn myfyriol yn fy nghorff’. Wrth ddiffinio Ymarfer Myfyriol a’r arfau ar gyfer cyflawni hynny, nod yr adnodd yma yw helpu meddygon i darparu enghreifftiau o fyfyrdod yn eu ffolderi gwerthuso.

“Wrth drafod eich gwybodaeth ategol, bydd gan eich arfarnwr ddiddordeb yn yr hyn a wnaethoch gyda’r wybodaeth a’ch myfyrdodau ar y wybodaeth honno, nid y ffaith eich bod wedi ei chasglu a’i chadw mewn portffolio yn unig” 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau