Poen yr wyneb

Module created Ebrill 2017

Mae achosion poen yr wyneb (“oro-facial”) yn niferus ac amrywiol. Mae achos mwyaf cyffredin poen yr wyneb yn tarddu o  ffynhonnell odontogenig. Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio i helpu Meddygon Teulu i adnabod a chyfeirio pobl a fyddai’n cysylltu â'u meddygfa gyda phoen cyffredin yr wyneb. Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr ac nid yw’n cynnwys cyngor ar sut i reoli cleifion sydd, er enghraifft, yn dangos arwyddion o fod yn dioddef o boen yn y mandibl a allai fod yn angina neu glaf sydd â chyflyrau difrifol ond yn fwy cyffredin fel “trigeminal neuralgia”.

Nid oes llawer y gall Meddygon Teulu ei wneud er mwyn rheoli nifer helaeth y problemau deintyddol ond bydd achlysuron prin lle bydd angen i feddygon teulu weithredu’n brydlon.

Er mwyn deall achosion poen yr wyneb, mae’n bwysig edrych eto ar strwythur y dannedd; strwythur a pherthynas y meinweoedd cyfagos yn ogystal ag edrych ar niwroffisioleg y geg.

Ysgrifennwyd y modiwl hwn gan Mick Allen, Ymgynghorydd Deintyddol (Gweithrediadau a Strategaeth), Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau