Pan oedd Bill yn wael

Module created Medi 2016

Yn aml iawn mae problemau gyda systemau yn amharu ar daith esmwyth y claf drwy ofal iechyd. Gall yr ymarferion yma helpu eich tîm i ganfod unrhyw broblemau posibl yn y systemau yma ac awgrymu ffyrdd y gallwch chi fel tîm weithio ar wella.

Mae’r ymarferion yma yn gweithio’n well pan fo holl aelodau’r tîm yn cymryd rhan. Os oes gennych fynediad at hanner diwrnod wedi’i ddiogelu, byddai un o’r senarios canlynol yn ddigon i’w lenwi. Dyma enghraifft o’r cyfarfod a rhai awgrymiadau o destunau ychwanegol.

Ar gyfer hwyluswyr - ‘Mae Wil yn datblygu diabetes’ 

Fel hwylusydd dylech sefydlu’r olygfa i ddechrau. Mae’n bwysig bod pob aelod o’r tîm yn cyfrannu a’i fod yn cael ei ddarparu mewn awyrgylch anfeirniadol. Atgoffwch y tîm bod hyn yn ymwneud â gwella ansawdd - ac nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod y system sydd yn bodoli yn anghywir -  a phan fo ymarfer da yn bodoli, dylid amlygu hynny.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau