Dulliau Atal Cenhedlu

Module created Awst 2019

Cyflwyniad

Mae dulliau atal cenhedlu yn rhan sylweddol o waith Practis Cyffredinol.  Ar unrhyw un adeg, mae hyd at 10% o fenywod, o oedran geni plentyn, sy’n defnyddio dulliau atal cenhedlu yn anfodlon â’u dull presennol.  Dros y 60 mlynedd diwethaf, mae dewisiadau o ran dulliau atal cenhedlu wedi datblygu’n anadnabyddadwy.  Gydag ymddangosiad dulliau atal cenhedlu drwy’r geg yn y 1960au, wedi ei ddilyn yn fuan wedyn gan ddyfeisiadau yn y groth, dulliau chwistrellu progesteron yn unig ac impiadau atal cenhedlu, mae gan fenywod yn y 21ain ganrif fynediad at amrywiaeth o ddewisiadau, yn rhad ac am ddim dan y GIG.   Er gwaethaf yr ymgyrch diweddar dros Driniaeth Diffrwythloni Gwrthdroadwy Hirdymor fel y dull atal cenhedlu mwyaf cost effeithiol, dulliau rhwystro a dulliau drwy’r geg sydd fwyaf cyffredin o hyd (gweler ffigur 1).  Nid oes yr un dull yn 100% heb risg, felly bydd y dewis yn dibynnu ar gymhwystra meddygol, pa mor hwylus yw ei ddefnyddio, proffil sgil-effaith, yn ogystal â dylanwadau diwylliannol o ran oedran, crefydd a chymuned. 

 Dewisiadau atal cenhedlu menywod 16-49 oed yn 2017

 

Ffigur 1: Dewisiadau Atal Cenhedlu menywod 16-49 oed yn 2017

Gall clinigau iechyd rhywiol neu fferyllfeydd roi nifer o’r dulliau hyn, ond mae nifer fawr o fenywod yn mynd at eu meddyg teulu i gael dulliau atal cenhedlu.  Gyda mwy a mwy o ddewisiadau ar gael o hyd, mae’n bwysig i feddygon teulu, a gweithwyr perthynol i ofal iechyd sy'n ymwneud â gwasanaethau atal cenhedlu, fod yn ymwybodol o’r arferion gorau diweddaraf.  Nod y pecyn addysgol hwn yw rhoi trosolwg o ddulliau atal cenhedlu, yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol gan y FSRH (yn yr Haf 2019).  Bydd yn edrych ar ddulliau atal cenhedlu drwy’r geg, dulliau chwistrellu progesteron yn unig, impiadau progesteron yn unig, a dulliau atal cenhedlu yn y groth.  Nid yw’n edrych ar ddulliau atal cenhedlu brys, dulliau rhwystro, dulliau naturiol na diffrwythloni.  I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan y FSRH lle bydd rhestr lawn a chynhwysfawr o'r canllawiau.

Ysgrifennwyd y modiwl hwn gan Dr Rebecca Ratcliffe, meddyg teulu yng Nghwmbrân


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau