Iechyd Meddwl yn ystod Covid-19

Module created Mai 2020

Cyflwyniad

Mae’r achosion o covid-19 wedi effeithio ar bawb yn wahanol. Mae’r ffordd mae’r gwasanaeth iechyd yn gweithredu wedi’i droi wyneb i waered gyda’r rhan fwyaf o ymgynghoriadau gofal sylfaenol yn cael eu cynnal o bell, dros y ffôn neu gysylltiad fideo. Mynegwyd pryderon gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol am y gostyngiad yn niferoedd y cleifion sy’n cysylltu gyda salwch sydd heb fod yn gysylltiedig â covid a’r effaith y gall y pandemig ei gael ar iechyd cyffredinol y boblogaeth sydd â chlefydau cronig a chyflwyniadau acíwt (ee ischemia myocardiaidd neu strôc).

coeden

Mae amharodrwydd hefyd ymhlith carfan sylweddol o gleifion i gael eu derbyn i ysbytai gyda chyflyrau brys neu acíwt. Dywed adrannau achosion brys eu bod yn gweld gostyngiad o 50% yn niferoedd y cleifion ac mae gwasanaethau acíwt ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd yn gweld gostyngiadau tebyg. Mae cyfraddau meddiannu gwelyau ysbytai yn 50% ac ar hyn o bryd nid oes gorgapasiti ffisegol yn y system. Wedi dweud hynny, mae’r modelu ar gyfer ail begwn mewn achosion o covid a ragwelir yn Nhachwedd a Rhagfyr wedi amlygu problemau capasiti posibl a fydd yn cyd-fynd â thymor ffliw'r gaeaf.

Yn ystod mis Hydref cawsom wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl. Roedd hwn yn gyfle i atgoffa Meddygon Teulu o bwysigrwydd iechyd meddwl ac roedd yn pwysleisio’r angen i fyfyrio ar sut yr ydym yn cynnal iechyd meddwl ein holl gleifion yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd gan bractisau gofrestr o gleifion â chyflyrau iechyd meddwl difrifol a dylid cysylltu â’r cleifion hyn yn rheolaidd yn ogystal â chynnal adolygiadau o feddyginiaethau. Yng nghanol yr anhrefn o ad-drefnu gwaith arferol practisau, mae’n anorfod y bydd rhai pethau’n cael eu gohirio a bydd rhai practisau yn dibynnu ar gyswllt â chleifion neu’n mabwysiadu ymateb mwy arloesol i adolygu cleifion o’r fath.

Mae tystiolaeth lafar yn dilyn trafodaethau â chydweithwyr ledled y De yn datgelu gostyngiad yng nghyswllt cleifion newydd â symptomau iselder ysgafn i gymedrol. Mae nifer o gleifion a oedd yn sefydlog cynt yn gofyn am gynyddu neu ail ddechrau cymryd gwrthiselyddion o ganlyniad i symptomau sy’n gwaethygu. Dywed llawer fod nifer y cysylltiadau â chleifion â phroblemau iechyd meddwl difrifol fel seicosis ac anhwylder affeithiol deubegynol wedi gostwng. Mewn adroddiad diweddar ar y BBC gwelwyd seiciatrydd henoed a ddywedodd ‘mae’n ymddangos bod ein cleifion wedi diflannu’ gan ddweud bod cleifion yn rhy ofnus i ofyn am help ar hyn o bryd. Mae arolwg o 1300 o feddygon iechyd meddwl wedi dangos gostyngiad o 45% yn nifer yr apwyntiadau arferol. Nid oes data llawn ar gael eto. Mae gwasanaethau gwirfoddol hefyd wedi cael eu heffeithio, gyda phob cymorth wyneb yn wyneb fel cwnsela a chyfarfodydd grŵp i gyd yn cael eu canslo o ganlyniad i’r cyfyngiadau. Er gwaethaf hyn, gwelodd gwasanaeth y tu allan i oriau Caerdydd a’r Fro eu canran o alwadau a oedd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl yn dyblu fis Ebrill o’i gymharu â’r un mis yn 2019 ac mae’r ganran hon yn uwch yn barod ar gyfer mis Mai.

Mewn gofal sylfaenol mae llawer o broblemau iechyd meddwl newydd yn cael eu hamlygu drwy symptomau eraill, fel crychguriadau’r galon, cur pen, cysgu’n wael ac ati. Rhaid i’r diagnosis seiciatrig gael ei wahanu’n fedrus oddi wrth y gŵyn sy’n cael ei chyflwyno, gan yr ymarferydd. Yn aml bydd cleifion am aros i weld a allant ymddiried digon yn eu meddyg drwy weld sut maent yn delio â mân gŵyn gorfforol cyn datgelu pryderon am eu hiechyd meddwl. Nid yw’r cyfleoedd hyn ar gael yn awr gan fod y cyhoedd yn cael eu hatgoffa’n ddi-baid i beidio â gofyn am gymorth meddygol os oes modd iddynt aros, sy’n golygu bod llawer yn gohirio am eu bod yn ofni cael eu hamlygu i covid-19. Mae ymgyrch gyhoeddusrwydd yn cael ei chynnal ar hyn o bryd sy’n gofyn i gleifion gysylltu er gwaethaf yr argyfwng.

 

Ysgrifennwyd y modiwl hwn gan Dr Mary Robathan, Arfarnwr Meddygon Teulu gyda RSU.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau