Canser y geg

Module created Ebrill 2017

Lympiau canser ar y tafod

Mae canserau y wefus, tafod, oroffaryncs a gweddill ceudod y geg (gaiff eu grwpio yn aml fel canser y geg) ar gynnydd. Yng Nghymru mae yna tua 300 o achosion newydd o ganser y geg yn cael eu diagnosio bob blwyddyn. Yn anffodus mae nifer o’r achosion yma (59%) yn cael eu diagnosio yn ystod camau hwyr y clefyd pan fo triniaeth yn fwy mewnwthiol a’r prognosis yn wael. Mae canfod cynnar yn allweddol o ran trin y cyflwr hwn yn llwyddiannus, a phwrpas yr adnodd yma yw helpu i adnabod y cyflwr ac i roi triniaeth yn brydlon. 

Mae’r adnodd yma yn addas i Feddygon Teulu, fferyllwyr cymunedol, gweithwyr gofal, mewn gwirionedd unrhyw un a ddaw i gysylltiad â pherson sydd yn cwyno â symptomau yn y geg.

Ysgrifennwyd yr adnodd yma ar y cyd gan Dr  Ilona  Johnson, uwch Ddarlithydd Clinigol a Meddyg Ymgynghorol Anrhydeddus mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol, a Dr Christopher Price, Pennaeth yr Uned Cymorth Ailddilysu, HEIW a Meddyg Teulu yng Nghwmbrân, gyda diolch i Dr Mary Wilson a’r Athro Michael Lewis am gyfrannu deunydd i’r adnodd yma.

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau