Cluniau a phengliniau

Module created Tachwedd 2012 - Reviewed Mehefin 2018

Mae’r pecyn addysgol yma yn canolbwyntio ar reoli osteoarthritis yn y cluniau a phengliniau yn anffarmacolegol a ffarmacolegol, yr anhwylder cymalau patholegol mwyaf cyffredin. Mae’n ategu Hip and Knee Book (Williams et al 2009) sef y canllaw hunangymorth i gleifion. Mae poen yn y cluniau a phengliniau yn achosi heriau sylweddol i GIG Cymru o ran ei reoli’n glinigol ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru o ran goblygiadau ariannol y clefyd cronig yma. Erbyn 2020, rhagfynegir y bydd y cynnydd mewn disgwyliad oes a’r boblogaeth sydd yn heneiddio yn achosi i osteoarthritis (OS) fod y pedwerydd achos pennaf o anabledd (Woolf et al 2003).

Amcangyfrifir hefyd bod gan 30-34% o oedolion 40 i 75 oed yn y DU ‘syndrom metabolig’ (Khunti et al 2010), sydd yn gyflwr cronig sydd yn cael ei nodweddu gan gleifion sydd yn byw â diabetes cydafiachus, clefyd cardiofasgwlaidd neu glefyd anadlol, y mae 70% ohonynt yn adrodd am weithgaredd cyfyngedig o ganlyniad i’w poen arthritig. Mae’r ffyrdd o fyw eisteddog sydd yn arwain at syndrom metabolig yn golygu bod cleifion yn wynebu mwy o risg o farwolaeth o ganlyniad i bob achos (Slater et al 2011). Felly mae angen i feddygon gofal sylfaenol ystyried bod   trin OA yn hanfodol ar gyfer gwella poen ac anabledd cleifion, yn arbennig yn achos rhai â salwch cronig cydafiachus.

Drwy ddarllen y modiwl yma, byddwch wedi diweddaru eich gwybodaeth a’ch sgiliau o ran:

  • Diagnosio a rheoli cleifion sydd yn cyflwyno poen acíwt yn y cluniau a phengliniau;
  • Adolygu’r dystiolaeth mewn perthynas â’r ymyriadau anffarmacolegol a ffarmacolegol a ddefnyddir i drin OA;
  • Deall gwneud penderfyniadau ar y cyd a sut y gellir defnyddio hynny er mwyn helpu i reoli cleifion ag OA y  cluniau a phengliniau.

Er bod yna amrywiaeth o opsiynau er mwyn lleihau poen ac anabledd OA, er gwaethaf ‘bwriadau gorau’ meddygon, y realiti yw bod trin cluniau a phengliniau poenus fel arfer yn cynnwys rhagnodiad gwrth-lidiog a disgwyl am glun neu ben-glin newydd. Un o’r negeseuon allweddol a geir yn y modiwl yma yw bod angen i feddygon teulu ddefnyddio dull mwy rhagweithiol o leihau poen cleifion a gwella ffwythiant drwy defnyddio dulliau amrywiol. Mae’r adolygiad canlynol o driniaethau yn dangos y bydd unrhyw driniaeth unigol yn effeithiol ar ei phen ei hun, a bod rheoli OA yn llwyddiannus yn dibynnu ar fabwysiadu nifer o newidiadau allweddol i ffordd o fyw yn llwyddiannus, ynghyd â therapïau seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’n ddiddorol bod yr NNTau (h.y. nifer y cleifion y mae angen eu trin er mwyn i rywun elwa o’i gymharu â rheolydd mewn treial clinigol) a ddefnyddir ar gyfer trin osteoarthritis yn fwy yn achos therapïau ffarmacolegol na rhai o'r therapïau anffarmacolegol a gynigir. Mae hynny yn rhoi mwy o bwysigrwydd i ‘werthu’ newidiadau i ffordd o fyw yn hytrach nag ar orsymleiddio a dibynnu ar un driniaeth ffarmacolegol.

Efallai bod gennych anghenion dysgu y byddwch eisiau eu hystyried a myfyrio arnynt ar ddiwedd y modiwl yma. Efallai byddai’n werth eu nodi yn eich PDP cyn parhau.

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau