Cyfres Mental Health
Mae’r Uned Ddiogelu Ranbarthol yn cyflwyno cyfres o weminarau wedi’u recordio. Mae’r rhain wedi cael eu dylunio gan arbenigwyr er mwyn hysbysu, addysgu a chefnogi meddygon teulu yng Nghymru i nodi a rheoli materion iechyd meddwl yn well ymhlith eu cleifion.
ANORECSIA MEWN PLANT A PHOBL IFANC |
||
Trosolwg: Gwyddom mai anhwylderau bwyta sydd â'r risg uchaf o farwolaethau o'r holl gyflyrau seiciatrig. Mae nodi'r cyflwr yn gynnar ac yna’i atgyfeirio ymlaen yn hanfodol er mwyn i'r unigolion hyn wella a goroesi. Fel rheol gyffredinol, anaml y bydd cleifion sy'n dioddef anhwylder bwyta yn dweud wrthych, yn amlach na pheidio y byddant hwy a'u teuluoedd yn cyflwyno amrywiaeth o wahanol faterion iechyd corfforol a meddyliol i ni yn lle hynny. Ein lle ni yw rhoi'r darnau at ei gilydd ac ystyried ai anhwylder bwyta yw'r achos sylfaenol. Calyniadau Dysgu: Bydd y weminar hon yn edrych ar gyflwyniadau o anorecsia mewn plant a phobl ifanc mewn lleoliad gofal iechyd sylfaenol, bydd yn darparu gwybodaeth hanfodol gan gynnwys beth i gadw llygad amdano, pa wybodaeth sy'n hanfodol wrth wneud atgyfeiriad, ble i'w hanfon a pha mor frys i'w hanfon. Bydd cyfranogwyr yn teimlo mwy o hyder a chymhwysedd wrth ddelio â'r achosion heriol hyn, a dyrennir amser i ateb unrhyw gwestiynau a allai godi.
|
ANHWYLDERAU PRYDER |
|
Trosolwg: Mae pandemig Covid-19 yn debygol o arwain at gynyddu cyffredinol mewn ystod o gyflyrau iechyd meddwl. Mae hyn yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy o broblem gydag anhwylderau pryder sy'n gysylltiedig ag ofn halogiad a phryderon iechyd. Mae cefnogi'r rhai ag anhwylderau pryder yn agwedd bwysig ar ofal sylfaenol. Mae bod â'r offer i asesu difrifoldeb a risgiau cysylltiedig yn hanfodol er mwyn gwybod pa gleifion sydd angen eu dyrchafu i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i gael ymyrraeth bellach. Canlyniadau dysgu: Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod yr ystod o anhwylderau pryder gan gynnwys yr epidemioleg, nodweddion clinigol, ffactorau aetiolegol a rheolaeth. |
|
Siaradwr: Dr Ian Collings, Seiciatrydd Ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol Anrhydeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Deoniaeth Feddygol AaGIC Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol. Hwylisur gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu Wedi'i recordio: Mehefin 2021 Hyd: 57 munud
|
|
Hunan-Niweidio Bwriadol |
|
Trosolwg: Mae cefnogi'r rhai sydd â hanes o hunan-niweidio bwriadol yn agwedd bwysig ar ofal sylfaenol. Mae bod â'r offer i asesu a rheoli hunan-niweidio bwriadol yn hanfodol ac yn galluogi dealltwriaeth gadarn y mae cleifion yn gofyn amdani i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i gael cefnogaeth ac ymyrraeth bellach. Nid yw hyn erioed wedi bod yn bwysicach nag yn ystod y 12 mis diwethaf yn ystod y pandemig COVID-19. Mae mwy o arwahanrwydd cymdeithasol a llai o fynediad at ofal iechyd meddwl wedi arwain at ffrwydrad mewn argyfyngau iechyd meddwl ac wedi hynny cynnydd mewn meddyliau a gweithredoedd hunan-niweidio bwriadol. Canlyniadau Dysgu: Yn y weminar hon byddwn yn trafod hunan-niweidio bwriadol gan gynnwys mynychder, ffactorau aetiolegol a rheolaeth. Ar ben hynny, byddwn yn trafod strategaethau i asesu a rheoli risg yn y rhai sy'n cyflwyno gyda syniadau neu weithredoedd o hunan-niweidio bwriadol. Bydd defnyddio achosion enghreifftiol yn hwyluso trafodaeth bellach trwy gydol y weminar |
|
Siaradwr: Dr Ian Collings, Seiciatrydd Ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol Anrhydeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Deoniaeth Feddygol AaGIC Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu Wedi'i recordio: Chwefror 2021 Hyd: 56 munud
|
Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) |
Trosolwg: Mae'r pandemig Covid-19 yn debygol o arwain at nifer cynyddol o gyflyrau iechyd meddwl. Mae hyn yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy o broblem gydag anhwylderau megis anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD). Mae cefnogi'r rhai sydd ag OCD ac anhwylderau cysylltiedig megis anhwylder dysmorffig y corff a hypochondriasis yn agwedd bwysig ar ofal sylfaenol. Mae meddu ar yr offer i asesu difrifoldeb a risgiau cysylltiedig yn hanfodol i wybod pa gleifion sydd angen eu symud ymlaen i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar gyfer ymyrraeth bellach Canlyniadau Dysgu: Yn y seminar rhyngweithiol hwn byddwn yn trafod OCD ac anhwylderau cysylltiedig gan gynnwys yr epidemioleg, nodweddion clinigol, ffactorau aetiolegol a rheolaeth. Bydd defnyddio enghreifftiau o achosion yn hwyluso trafodaeth bellach drwy gydol y seminar |
Siaradwr: Dr Ian Collings, Seiciatrydd Ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol Anrhydeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Deoniaeth Feddygol AaGIC Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu Wedi'i recordio: Rhagfyr 2021 Hyd: 60 munud
|
|
Anhwylder Straen Wedi Trawma Ac Anhwylderau Cysylltiedig |
|
Trosolwg: Gall trawma achosi ôl-effeithiau corfforol a seicolegol pellgyrhaeddol. Mae llawer o bobl yn gorfod delio ag episodau unigol o drawma neu drawma cymhleth ac estynedig. Mae cael yr offer i asesu a chefnogi’r rhai sydd wedi profi trawma yn hanfodol i unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol, yn enwedig meddygon teulu mewn gofal sylfaenol. Canlyniadau Dysgu: Yn y sesiwn hon byddwn yn canolbwyntio ar anhwylder straen wedi trawma ac anhwylderau cysylltiedig. Byddwn yn trafod yr ymgyflwyniad, achoseg, epidemioleg a’r rheolaeth. Bydd y sesiwn yn helpu mynychwyr i allu gwahaniaethu rhwng y cleifion hynny sydd wedi dioddef trawma mwy cymhleth a nodi ffactorau risg a allai olygu bod angen uwchgyfeirio i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. |
|
Siaradwr: Dr Ian Collings, Seiciatrydd Ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol Anrhydeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Deoniaeth Feddygol AaGIC Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu Wedi'o recordio: Rhagfyr 2020 Hyd: 54 munud
|
|
Risg Hunanladdiad |
|
Trosolwg: Mae cefnogi'r rhai sydd â syniadaeth a gweithredoedd hunanladdol yn agwedd bwysig o ofal sylfaenol. Mae bod â'r offer i asesu'r risg o hunanladdiad yn hanfodol er mwyn gwybod pa gleifion sydd angen eu dyrchafu i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i gael ymyrraeth bellach. Nid yw hyn wedi bod erioed mor bwysig nag yn ystod y 6 mis diwethaf yn ystod y pandemig COVID-19. Mae mwy o arwahanrwydd cymdeithasol a llai o fynediad at ofal iechyd meddwl wedi arwain at ffrwydrad mewn argyfyngau iechyd meddwl ac wedi hynny cynnydd mewn meddyliau a bwriad hunanladdol Canlyniadau Dysgu: Yn y seminar rhyngweithiol hon byddwn yn trafod hunanladdiad gan gynnwys mynychder, ffactorau aetiolegol a rheolaeth. At hynny, byddwn yn trafod strategaethau i asesu a rheoli risg yn y rhai sy'n cyflwyno syniadaeth hunanladdol. Bydd defnyddio achosion enghreifftiol yn hwyluso trafodaeth bellach trwy gydol y seminar. |
Siaradwr: Dr Ian Collings, Seiciatrydd Ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol Anrhydeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Deoniaeth Feddygol AaGIC Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol. Hwylusir gan: Dr Nicola Flower Arweinydd DPP Meddygon Teulu Wedi'o recordio: Rhagfyr 2020 Hyd: 60 munud
|
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen isod, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.