Brechlyn ffliw
Module created Hydref 2018
Eich canllawiau ar gyfer annog eich cleifion i gael eu brechu
Pwrpas y modiwl yma yw cefnogi a’ch cynghori chi o ran cynnal trafodaeth gadarnhaol gyda’ch cleifion ynglŷn â’r brechlyn ffliw drwy ddefnyddio ymyrraeth gryno/technegau cyfweld ysgogiadol allai fod o fudd i chi o ran cynyddu’r niferoedd sydd yn cymryd y brechlyn ffliw ar adegau oportiwnistaidd gyda’ch cleifion.
Fe’i crëwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.