Materion y Fron a Gynaecoleg

Mae Datblygiad proffesiynol parhaus(DPP) ar Gais yn cynnig yr hyblygrwydd i chi wylio ein holl ddigwyddiadau Datblygiad proffesiynol parhaus yn fyw, pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch!

Clefyd y Fron

Trosolwg: Byddai Meddyg Teulu yn gweld 1-2 o ganserau'r fron ar gyfartaledd y flwyddyn. Yn y weminar hon byddwn yn trafod sut i asesu claf o'r fron mewn gofal sylfaenol a chyfeirio'r claf yn briodol at ofal eilaidd.

Canlyniadau Dysgu: Yn ogystal, bydd y weminar yn trafod yr amodau cyffredinol a welir mewn gofal sylfaenol.

Cysylltwch â heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk i weld y gweminar.

Siaradwr: Mr Sumit Goyal MBE. Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Wedi'i recordio:  Ionawr 2022  Hyd: 48 Munud

 

Problemau Cenhedlol-wrinol yn y Menopos

Trosolwg:Wrth ddarllen y teitl, efallai y byddwch chi'n teimlo nad yw hyn yn berthnasol i chi. Fodd bynnag - cymerwch olwg ar y rhestr brysbennu foreol a chyfrif faint o alwadau sy'n ymwneud ag “UTI”, “Llid y Bledren”, “Llindag unwaith eto”. Mae llawer o'r galwyr hyn yn eu blynyddoedd ôl-atgenhedlu. Perir llawer o godymau gan ddryswch fel achos eilaidd o haint y llwybr wrinol, yn ogystal â derbyniadau ar gyfer deliriwm neu sepsis. Os yw'r rhain yn arwain at dorasgwrn y gwddf neu’r glun, mae’r gyfradd goroesi blwyddyn wedi’i
ddatgan i fod mor isel â 50%. Felly, gall bod yn ymwybodol o oblygiadau diffyg estrogen, a gwneud arferiad o gymryd meddyginiaeth ataliol ragweithiol arbed llawer o amser inni yn yr hirdymor ac arbed llawer o arian i'r GIG!

Canlyniadau Dysgu: Mae’r gweminar recordiedig hon yn trafod goblygiadau diffyg estrogen ac yn archwilio sut y gall ymarfer meddyginiaeth ataliol ragweithiol arbed llawer o amser inni yn yr hirdymor.

Cysylltwch â heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk i weld y gweminar.

Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a Hyfforddwr

Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Wedi'i recordio: Mawrth 2021  Hyd:  55 Munud

 

Gweminar HRT a’r Menopos

Trosolwg: Mae menywod yn byw traean o'u bywydau ar gyfartaledd yn y blynyddoedd ôl-atgenhedlu. Mae diffyg estrogen yn cael effeithiau dwys ar les meddyliol a chorfforol, gan effeithio ar iechyd unigolyn yn ogystal â'r gallu i weithio ac i gynnal perthnasoedd. Mae hyn yn ei dro yn creu problemau sy'n costio arian i’r GIG yn ogystal â chymryd cryn dipyn o'n hamser ym maes gofal sylfaenol.
Gall ymwybyddiaeth o'r problemau posibl hyn ganiatáu inni roi'r wybodaeth berthnasol i fenywod wneud dewisiadau gwybodus, gan fod o fudd i'r claf unigol ac arbed amser i'n hunain yn y dyfodol.

Canlyniadau Dysgu: Yn y weminar hon, byddaf yn cyflwyno canllawiau i'n galluogi i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa baratoad HRT sy'n addas ar gyfer pa glaf, crynodeb o gyngor NICE, a cheisio rhoi risg canser y fron yn ei gyd-destun.

 

Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a
Hyfforddwr

Hwylusir gan: Dr Nimish Shah GP CPD Lead.  

Trawsgrifiad

Wedi'i recordio:  Chwefror 2021  Hyd 79 Munud

Problemau Gwaedu yn y Peri a'r Post Menopos

Trosolwg: Mae gwaedu afreolaidd yn gyflwyniad cyffredin tua adeg y menopos a thu hwnt.

Canlyniadau Dysgu: Mae'r gweminar hon i'ch helpu i benderfynu pryd i dawelu meddwl, pryd i ymchwilio a thrin o fewn gofal sylfaenol, pryd i gyfeirio ymlaen fel trefn arferol, a phryd i gyrraedd am y ffurflenni aros pythefnos.

 

Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a
Hyfforddwr

Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Trawsgrifiad

Recorded:  Ebrill 2021  Duration: 55 Munud

Prolaps ac Anymataliaeth Wrinol

Trosolwg: Mae cyfran helaetho ymgynghoriaethgofal sylfaenol yn ymwneud âgweld menywod syn ymgyflwynoâllithriad/prolapsorganaur pelfis neu anymataliaeth wrinol. Er nad ywn bygwth bywyd, gall effeithion sylweddol ar ansawdd bywyd. Mae Canllawiau NICE yn darparu fframwaith i feddygon teulu ei ddilyn cyn atgyfeirio i ofal eilaidd.

Canlyniadau Dysgu: Gobeithiwn y bydd y gweminar recordiedig hwn yn eich helpu i ddeall y pwnc hwn yn well ac yn ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gennych.

 

Siaradwr: Dr Sharifah Jalil, Consultant in Obstetrics and Gynaecology, BCUHB.

Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Recorded:  Mai 2022  Duration: 47 Munud

Testosteron

Trosolwg: Mae menywod a dynion yn cynhyrchu testosteron a gallant ddioddef o ddiffyg testosteron.

Canlyniadau Dysgu: Mae'r weminar hon yn archwilio'r rôl y mae testosteron yn ei chwarae yn y ddau ryw, sut
i asesu diffyg, a phryd i ystyried amnewid.

 

Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a Hyfforddwr

Hwylusir gan: Dr Nimish Shah GP CPD Lead. 

Wedi'i recordio: Tachwedd 2021  Hyd:  44 Munud

Misglwyf Annisgwyl

Trosolwg: Mae cleifion yn ymgyflwyno’n aml â phryderon ynglŷn âu patrymau gwaedu misglwyfol.

Canlyniadau Dysgu: Yn ystod y weminar hon byddwn yn edrych ar yr hyn syn normal, pryd y dylech boeni, a sut i reoli misglwyf annisgwyl.

 

Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a Hyfforddwr

Hwylusir gan: Dr Nimish Shah GP CPD Lead.

Wedi'i recordio: Mai 2022  Hyd:  55 Munud

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen isod, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.

Dolen Adborth

 


Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau