Poen gwaelod y cefn
Module created Ebrill 2011 - currently under review
Mae’r pecyn addysgol yma yn canolbwyntio ar leoli poen gwaelod y cefn yn briodol ac amserol. Mae’n broblem y mae Meddygon Teulu yn ei hwynebu yn ddyddiol, ac mae’r pecyn yn amcanu at gefnogi darparu gofal seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â’r cyflwr cyffredin yma. Ar ddiwedd y modiwl, byddwch wedi diweddaru eich gwybodaeth a’ch sgiliau o ran:
- rheoli cleifion sydd yn cyflwyno poen cefn acíwt
- adnabod cleifion sydd yn ‘wynebu risg’, y rhai allai fynd ymlaen i ddatblygu poen cronig
- rheoli cleifion sydd â phoen gwaelod y cefn acíwt
Efallai bod gennych anghenion dysgu y byddwch eisiau eu hystyried a myfyrio arnynt ar ddiwedd y modiwl yma. Efallai byddai’n werth eu nodi yn eich PDP cyn parhau.
Bydd y modiwl yma yn canolbwyntio ar reolaeth gynnar i’r cleifion hynny sydd â phoen cefn acíwt ac yn cyflwyno rhai cysyniadau o ran delio â’r rhai nad yw eu poen cefn yn gwella er mwyn atal y boen rhag bod yn gronig (anabledd o ganlyniad i boen) a’r baich mawr ar yr unigolyn, y teulu, y GIG a Chymdeithas.
Mae nifer o gleifion yn cael pyliau hunangyfyngol o boen gwaelod y cefn acíwt ac nid ydynt angen gofal gan y GIG; bydd analgesia syml, hunanofal a chyngor priodol ynghylch cadw’n actif yn ddigon (Ymgyrch Cefnau Cymru; ‘The Back Book’ (Roland et al 2007). Mae gan dros 85% o’r cleifion a ddaw at ofal sylfaenol yn dioddef poen gwaelod y cefn na ellir ei briodoli’n ddibynadwy i glefyd penodol neu abnormaledd sbinol. Ymysg y rhain, bydd poen, anabledd a’r gallu i ddychwelyd i’r gwaith yn gwella’n gyflym ar ôl y mis cyntaf. Ond, bydd hyd at draean o’r cleifion yn adrodd am boen cefn parhaus o ddwysedd sydd o leiaf yn gymedrol flwyddyn ar ôl pwl acíwt, a bydd 1 o bob 5 yn adrodd am gyfyngu arwyddocaol ar weithgaredd. Mae tua 5% o weddill y bobl sydd ag anabledd poen cefn yn cyfateb i 75% o’r costau sydd yn gysylltiedig â phoen gwaelod y cefn. Ymysg y lleiafrif yma mae angen i ni osgoi yr hyn a ddisgrifiodd Yr Athro Gordon Waddell fel ‘Y cyfle euraidd pan fo aros am adferiad naturiol yn gadael i’r claf lithro’n oddefol a thawel i boen cronig ac anabledd.’