Pediatreg

Mae Datblygiad proffesiynol parhaus(DPP) ar Gais yn cynnig yr hyblygrwydd i chi wylio ein holl ddigwyddiadau DPP yn fyw, pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch!

Poen Cronig yn yr Abdomen

Trosolwg: Mae poenau abdomenol cronig yn gyffredin mewn plant a phobl ifanc. Mae cwynion am boen abdomenol cronig yn digwydd mewn 10-19% o blant ac mae astudiaethau yn awgrymu eu bod nhw yn cyfrif am 5% o ymgynghoriadau Meddygon Teulu. Maent hefyd yn awgrymu bod mwy na thraean o blant yn dal i gael poen parhaus blwyddyn wedi’r cyflwyniad gwreiddiol gyda’r meddyg teulu. Gall absenoldeb o’r ysgol a’r effaith ar fywyd teulu a chymdeithasol for yn arwyddocaol.

Mae yno ddau gategori eang o achosion poen abdomenol cronig yn bodoli; organig a gweithredol. Gall asesu a goruchwylio plentyn gyda phoen abdomenol fod yn heriol, ac yn bryder rhwystrol i’r plentyn, rhieni/ gofalwyr a’r Doctor.

Canlyniadau dysgu: Mae’r weminar yma yn edrych ar asesiad a dulliau rheoli cychwynnol, strategaethau i’w hystyried yn ogystal a ystyried pwy a phryd i atgyfeirio.

Bydd cyfranwyr yn teimlo cynnydd mewn hyder a chymhwysedd yn delio gyda’r achosion hyn.

 

Siaradwr: Dr Louise Phillips, Paediatregydd Ymgynghorol, BIPBC.

Hwylusir gan: Dr Mike Barker, Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Wedi'i recordio: Tachwedd 2022 Hyd: 62 Minutes

Briwiau Croen Cyffredin

Trosolwg: Mae’r cyflwyniad o friwiau croen pediatrig yn gyffredin mewn ymarfer cyffredinol. Mae amrywiaeth eang o friwiau fasgwlaidd a briwiau meinwe meddal sy'n cael eu harddangos o’r cyfnod newydd-anedig hyd at flynyddoedd plentyndod. Mae'n bwysig nodi'r briwiau hyn yn gywir, yn enwedig y rhai a allai fod yn risg uchel, neu'r rhai sydd â chyfnod rheolaeth lle mae amser yn holl bwysig.

Canlyniadau dysgu: Bydd y gweminar hwn yn diweddaru gwybodaeth ac yn gwella diagnosis hyderus o friwiau croen pediatrig cyffredin gan gynnwys briwiau fasgwlaidd, systig a phigmentog. Bydd yn anelu roi arweiniad ar y rhai sy'n ddiogel i'w monitro a'r rhai y dylid eu cyfeirio at ofal eilaidd.

Bydd cyfranogwyr yn teimlo mwy o hyder a chymhwysedd wrth ymdrin â'r achosion hyn.

 

Siaradwr: Dr Angie WestwoodGPwER Dermatoleg a Mân Lawfeddygaeth, BIPBA.

Hwylusir gan: Dr Nicola Flower, Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Wedi'i recordio: Ionawr 2023 Hyd: 27 Minutes

Diagnosis a Rheoli Epilepsi

Trosolwg: Oeddech chi'n gwybod bod epilepsi mewn gwirionedd yn cael ei ddisgrifio'n well fel 'yr epilepsiau'? Mae'n gyffredin iawn ymhlith plant ac yn aml caiff ei ddiagnosio’n ormodol. Mae hyn yn golygu bod plant yn cael meddyginiaeth yn ddiangen gyda'r potensial ar gyfer sgil-effeithiau pellgyrhaeddol. Ar y llaw arall mae gan lawer o blant arwyddion cynnil o'r epilepsiau sy'n parhau'n anadnabyddus yn rhy hir. Fe fyddan nhw felly yn wynebu'r risg o golli camau hanfodol yn eu datblygiad a'u dysg oherwydd canlyniadau'r cyflwr.

Nodwedd arall o'r epilepsiau yw bod ymchwiliadau'n aml yn cael eu cynnal yn ormodol. Bydd cyfarwyddo'r profion electroencephalogram (EEG) yn briodol yn arbed cymaint o drafferth a dryswch yn nes ymlaen. Gan fwyaf mae'r epilepsiau'n parhau i fod yn ddiagnosis clinigol yn seiliedig ar gymryd hanes cywir gyda phrawf EEG yn ychwanegol. Mae sganio MRI o'r ymennydd a'r defnydd wedi'i dargedu o brofion genetig yn ddefnyddiol iawn yn yr asesiad llawn o'r plentyn ifanc iawn gyda'r diagnosis hwn. Mae gwerth deall ymyriadau fferyllol ac an-fferyllol newydd yn dda. Mae cwestiynau am olew canabis yn niferus iawn! Mae'r rhybudd am defnydd o Valproate yn y claf benywaidd hefyd yn werth ei drafod.

Canlyniadau dysgu:  Mae'r gweminar hwn gyda senarios clinigol yn gyfle i ddeall mwy am yr epilepsiau. Byddwn yn cyfeirio at ganllawiau NICE yn aml am sylfaen gadarn. Amlygir gwerth cyfeirio cleifion at www.epilepsy.org.uk (camau epilepsi). Cyflwynir pwyslais ar ddiogelwch a gwybodaeth arweiniol, gan gynnwys SUDEP (Marwolaeth sydyn annisgwyl yn sgil epilepsi) mewn modd rhyngweithiol.

 

 

 

Siaradwr: Dr Damitha Ratnasinghe, Paediatregydd Ymgynghorol, BIPHD.

Hwylusir gan: Dr Nicola Flower, Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Wedi'i recordio: Tachwedd 2022 Hyd: 62 Minutes

Rhiwmatoleg Pediatrig

Trosolwg: Mae problemau cyhyrysgerbydol ymhlith plant a phobl ifanc yn gyffredin, gyda diagnosis differol eang ar gael i'w hystyried. Gall amodau llidiol heb ddiagnosis arwain at niwed hirdymor i'r cyd a morbidrwydd dilynol, gan effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc.

Canlyniadau dysgu: Mae'r gweminar hwn yn drosolwg o ddiagnosis Arthritis Idiopathig Ieuenctid, tra'n ystyried diagnosau eraill ar gyfer poen yn y cymalau, gan gynnwys yr achosion cyffredin, a'r rhai prinach na ellir eu anwybyddu.

 

 

Siaradwr: Dr Simon Fountain-Polley, Paediatregydd Ymgynghorol, BIPHD.

Hwylusir gan: Dr Nicola Flower, Arweinydd DPP Meddygon Teulu.

Wedi'i recordio: Tachwedd 2022 Hyd: 52 Minutes

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen isod, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.

Dolen Adborth


Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau