Cymell i Symud

Module created Hydref 2013 - Reviewed Mawrth 2020

Petawn yn gallu rhoi y swm priodol o faeth ac ymarfer corff, dim rhy ychydig a dim gormod, byddwn wedi canfod y ffordd fwyaf diogel o fod yn iach  - Hippocrates 460-377 BC

Croeso i Cymell i Symud (Motivate 2 Move)

Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi’r wybodaeth gefndirol angenrheidiol i’r holl broffesiynau gofal iechyd i’w galluogi i addysgu cleifion am fuddion gweithgarwch corfforol o ran iechyd a’u hysgogi i fanteisio ar y buddion hynny.

Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn cynnig amryw o fanteision corfforol a meddyliol. Mae’r rhain yn cynnwys lleihau’r perygl o glefydau, rheoli cyflyrau sy’n bodoli eisoes a datblygu a chynnal gweithrediad y corff a’r meddwl. 1 Mae rhagor o fanylion am y cyflyrau sy’n elwa o weithgarwch corfforol ar gael mewn rhannau eraill yn yr adnodd hwn.

Mae hefyd yn cyfrannu at ystod o fuddion cymdeithasol ehangach o safbwynt unigolion a chymunedau, sy’n cynnwys y canlynol: dysgu a chyrhaeddiad gwell, rheoli straen, hunaneffeithiolrwydd, cysgu’n well, datblygu sgiliau cymdeithasol, a rhyngweithio cymdeithasol gwell.1

 

Ffigur 1: Manteision cronnol gweithgarwch corfforol o ran iechyd i bob oedran.1

Wedi’i lunio ar ffurf ‘pytiau’ byr o wybodaeth, mae’r modiwl yn trin a thrafod pob agwedd ar weithgarwch corfforol ac iechyd, o wybodaeth gyffredinol i argymhellion penodol ar gyfer clefydau penodol. Mae wedi’i rannu’n bedair prif ran: 

  • Canllawiau’r DU ar weithgarwch corfforol
  • Manteision iechyd – o ran 31 cyflwr meddygol gwahanol
  • Newid ymddygiad – gan ddefnyddio tri dull gwahanol
  • Dechrau bod yn egnïol

Mae hefyd yn dangos cyngor perthnasol Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar weithgarwch corfforol, dolenni i adnoddau ar gyfer cleifion a syniadau am archwiliad.

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau