Y camau nesaf
Erbyn hyn dylai fod gennych lawer o wybodaeth. Dylai’r grŵp gytuno ar y themâu a dylid grwpio awgrymiadau cyffelyb. (e.e. byddai ffonau yn rhy brysur, disgwyl yn hir i rywun ateb y ffôn a gormod o alwadau ffôn, yn cael eu grwpio)
Nawr gellir rhannu’r tîm yn ddau grŵp - ceisiwch sicrhau bod yna gymysgedd dda o ddisgyblaethau ym mhob grŵp. Dylech ddyrannu 2 neu 3 o’r camau i bob grŵp, a'u tasg fydd:-
- Edrych ar y materion yn fanylach
- Beth yw'r canlyniadau?
- Cynnig awgrymiadau/Atebion/Camau (croesawir pob awgrym)
- Adborth i’r tîm
Dylid rhoi o leiaf hanner awr neu hyd yn oed 45 munud i’r grwpiau.