Anghenion Ffisiolegol

pyramid Maslow

I ystyried sut y bydd covid-19 yn effeithio ar iechyd meddwl y genedl mae angen inni ddychwelyd at yr hanfodion. Mae hierarchaeth o anghenion Maslow yn gosod anghenion ffisiolegol fel conglfaen anghenion pobl, gyda bwyd, dŵr, dillad, cwsg a lloches yn cael eu nodi fel yr anghenion dynol mwyaf sylfaenol. Gyda covid-19 yn gadael llawer yn ddi-waith neu ar ffyrlo, mae straen ariannol bellach yn realiti i gyfran sylweddol o’r boblogaeth. Mae pryderon am sut y byddant yn talu biliau a bwydo eu teulu yn gadael pobl heb y modd i ddiwallu eu holl anghenion. Mae wedi cael effaith sylweddol hefyd ar anghenion diogelwch sicrwydd personol, cyflogaeth ac iechyd.

Gyda’r lladdwr cudd hwn yn llechu, mae pawb yn awr yn pryderu am eu diogelwch personol a’u hiechyd, y bygythiad sylweddol o gael eu heintio a’r diweddariadau rheolaidd ar y newyddion a chyfryngau cymdeithasol yn golygu ein bod yn cael ein hatgoffa bob dydd, os nad bob awr, o’r sefyllfa. Mae hyn yn rhoi pob un ohonom dan straen. Dychmygwch os oedd bywyd yn straen eisoes, gyda phopeth yn y fantol? Hyd yn oed i’r rhai hynny a all oddef ansicrwydd y ddau angen sylfaenol wrth inni symud i fyny’r hierarchaeth, gallwn weld bod pob lefel yn cael eu heffeithio. Mae cariad a pherthyn – agosatrwydd ac ymdeimlad o gysylltiad - i gyd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau gyda rhai wedi eu hynysu’n llwyr oddi wrth anwyliaid a heb ddim cysylltiad â neb o ddydd i ddydd. Mae’n amlwg felly bod y pandemig hwn yn mynd i effeithio ar iechyd meddwl pawb ar y ddaear.

Y cwestiwn sy’n rhaid ei ofyn yw, sut allwn ni fel Meddygon Teulu, helpu pobl i ddelio â hyn? Sut allwn ni wybod pwy fydd y bobl a fydd yn gallu ymdopi a’r rhai a fydd yn cyrraedd pen eu tennyn?


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau